Am y rôl:Cynorthwyo neu alluogi unigolion i barhau i fyw yn y gymuned, gwella ansawdd eu bywydau a'u cefnogi a'u cynnal yn ddiogel yn eu hamgylchedd eu hunain, a darparu cymorth i unigolion fel sy'n ofynnol er mwyn iddynt fodloni eu deilliannau. Goruchwylio a chynnal gofal a chefnogaeth unigolion o fewn Bodlondeb, Wardeiniaid a Gwasanaethau Cymorth Cartref sy'n gyfrifol am reoli o ddydd i ddydd. Arwain tîm o Uwch Weithwyr Cymorth a gweithwyr cymorth ar draws y gwasanaethau gan sicrhau darpariaeth effeithiol o ofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.Amdanoch chi:• Y gallu i gyfathrebu â phobl yn y modd mwyaf priodol.• Gallu a phrofiad o ran cynnal asesiad anghenion nad yw'n gymhleth a chymryd risgiau cadarnhaol.• Y gallu i weithio fel rhan o dîm.• Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol a derbyn cyfrifoldeb am dasgau dirprwyedig.• Sgiliau adrodd a recordio da.• Y gallu i asesu staff, mewn perthynas â meysydd risg, paru staff â sefyllfaoedd, rheoli gwrthdaro.Eich dyletswyddau:1. Darparu arweinyddiaeth a rheolaeth gref ar y gwasanaeth o ddydd i ddydd. Darparu arweinyddiaeth o ran cymhelliant, rheoli newid ac arfer myfyriol sy'n hyrwyddo annibyniaeth defnyddwyr ac yn diwallu anghenion pobl.2. Arwain tîm o Uwch Weithwyr Cymorth a gweithwyr cymorth ar draws y gwasanaethau gan sicrhau darpariaeth effeithiol o ofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.3. Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau cymeradwy Cyngor Sir Powys.4. Sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Cofrestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol 2016 (RISCA 2016).Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu âJames Stuart - Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Cofrestredig (Gogledd Powys)Ffon/Ffôn: 01938 551077 eBoost/E-bost: [email protected]
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i’r swydd hon