Mae dwy swydd ar gael
Am y rôl: Helpu’r gweithiwr ieuenctid i gynllunio, trefnu a rhedeg clwb ieuenctid llwyddiannus i bobl ifanc rhwng 11-25 oed, ddwy noson yr wythnos. Amdanoch chi: Bydd y person cywir: • Yn gallu adeiladu cydberthnasau da gyda phobl ifanc.• Yn gallu gweithio fel rhan o dîm.• Yn llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig.• Yn meddu ar ddealltwriaeth o’r problemau sy’n effeithio ar bobl ifanc.• Yn barod i weithio gyda’r nosweithiau. Beth fyddwch chi’n ei wneud:• Byddwch chi’n cynorthwyo’r gweithiwr ieuenctid i redeg y clwb ieuenctid yn llwyddiannus.• Bydd gennych gyfrifoldeb dros ddiogelwch a llesiant y bobl ifanc.• Byddwch chi’n cynorthwyo i gynllunio prosiectau a gweithgareddau ieuenctid. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch a Rhodri Jones -rhodri.jones@powys.gov.uk/07909882525
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS