Am y rôl: Gweithio â phobl ifanc fregus rhwng 11-25 oed oddi fewn i’r gymuned i ddarparu cymorth un i un yn ogystal â bod yn gyfrifol am redeg prosiectau’r clwb ieuenctid yn yr ardal. cynllunio a pharatoi gweithgareddau i’r clwb ieuenctid gyda’r nosweithiau. Amdanoch chi: Bydd y person cywir yn: • Gallu adeiladu a chynnal a chadw cydberthnasau cadarnhaol gyda phobl ifanc a phartneriaid strategol.• Bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant corfforaethol a phwrpasol yn ôl y gofyn• Gallu ysgrifennu adroddiadau a bodloni terfynau amser• Meddu ar wybodaeth o’r ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid• Brwdfrydig ac ymroddgar• Meddu ar sgiliau cyfathrebu a gwrando da• Yn barod i weithio gyda’r nosweithiau Beth fyddwch chi’n ei wneud:• Cynllunio a threfnu rhaglenni gwaith ieuenctid.• Rheoli llwyth achos bach a darparu cymorth unigol i bobl ifanc fregus • Cofnodi, monitro a gwerthuso gweithgareddau gwaith ieuenctid • Ysgrifennu adroddiadau ac astudiaethau achos • Goruchwylio a darparu cyngor i gydweithwyr • Rhedeg tudalen cyfryngau cymdeithasol y clwb ieuenctid Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch a Rhodri Jones -[email protected]/01874 622685
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS