Tîm Asesu (Gogledd a De Powys)Tîm Gofal a Chymorth (Gogledd a De Powys)Tîm y Llys GAI (De Powys)
Am y swydd: Mae'r timau wedi hen sefydlu ac yn gefnogol, gan gynnwys Gweithwyr Cymdeithasol profiadol i Weithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso a Gweithwyr Cymdeithasol sy'n fyfyrwyr. Mae gennym weithwyr Llesiant profiadol a Chydlynwyr Tîm o fewn y timau sy'n darparu cymorth i'r Gweithwyr Cymdeithasol gyda thasgau beunyddiol a gwaith papur. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol a dilyniant gyrfa unigolion.Amdanoch chi: • Byddwch yn gallu darparu cefnogaeth briodol i blant a theuluoedd, gan ddefnyddio eich brwdfrydedd a'ch cymhelliant i hyrwyddo canlyniadau llwyddiannus.• Byddwch yn fedrus ac yn hyderus wrth gyfathrebu ag eraill er mwyn cynnal ymgysylltiad â theuluoedd mewn amgylchiadau newidiol, gan gynnwys lle mae gelyniaeth a risg. • Byddwch yn greadigol yn eich gwaith gyda phlant ac yn mabwysiadu'r defnydd o offeri'w hannog i rannu eu dymuniadau a'u teimladau. • Bydd angen ystod eang o wybodaeth a sgiliau arnoch i nodi'r ystod lawn o risgiau i blant a helpu i reoli'r risgiau hynny; gan sicrhau y darperir ymyrraeth gymesur ac amserol. • Helpu i adeiladu perthnasoedd teuluol ac adnabod rhwydweithiau cymorth unigolion. • Bydd angen ichi fabwysiadu model ymyrraeth a phrofiad sy'n seiliedig ar gryfderau wrth ddefnyddio'r model hwn – dymunolEich dyletswyddau:• Darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol i blant a phobl ifanc unigol gyda'r bwriad o'u cadw'n ddiogel a'u galluogi i gyflawni eu potensial llawn mewn lleoliad sy'n darparu sefydlogrwydd cyfreithiol. • Gweithio fel rhan o dîm, gan ymgymryd â thasgau ar sail dyletswydd rota, a chyflenwi ar gyfer cydweithwyr sy'n absennol.• Meithrin a chynnal perthnasoedd gwaith da gyda chydweithwyr a phartneriaid sy'n galluogi'r tîm i weithio'n effeithiol. • Nodi materion risg mewn perthynas ag amgylchiadau plant unigol, a sicrhau bod diogelu ar waith er mwyn lleihau'r risgOs oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y swydd, croeso ichi gysylltu â: recruitment@powys.gov.uk
Mae gofyn cael Gwiriad Manwl y GDG ar gyfer y swydd hon