Ymunwch â'n digwyddiad recriwtio! Gallwch gael gwybod mwy am y swydd wag hon a swyddi tebyg eraill yn ein digwyddiad recriwtio Gwasanaethau Plant ar-lein ar 26 Medi 2024. Ewch i https://cy.powys.gov.uk/gc-digwyddiadau am fanylion.
Mae premiwm ychwanegol yn y farchnad yn berthnasol i Thimau Gofal a Chymorth, Gofal Drwy’r Broses ac Asesu - bydd hyn yn cael ei drafod yn y cyfweliad
Eisiau dysgu mwy am y tîm Gofal a Chymorth? Gwyliwch stori Aimee wrth iddi rannu ei phrofiad fel gweithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso.
Am y rôl: Mae'r timau Gofal a Chymorth yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd pan nodir bod angen cymorth a gwasanaethau ychwanegol arnynt. Gall hyn fod yn blant sydd angen cynlluniau gofal a chymorth neu amddiffyn, achosion Cyfraith breifat, teuluoedd yn y broses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (ACG) a chychwyn achosion Gofal.Mae'r tîm wedi'i hen sefydlu'n ac yn gefnogol. Bydd y Prif Weithiwr Cymdeithasol yn gweithio ochr yn ochr ag Uwch Weithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso, Gweithwyr Lles a chydlynwyr tîm.Rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol a dilyniant gyrfa.Amdanoch chi: • Llawn cymhelliant ac yn benderfynol o gyflawni canlyniadau llwyddiannus i blant a phobl ifanc.• Sgiliau cyfathrebu medrus a hyderus i gynnal ymgysylltiad â theuluoedd mewn amgylchiadau newidiol, gan gynnwys lle mae gelyniaeth a risg.• Meddu ar ystod eang o wybodaeth a sgiliau i nodi risgiau i blant a helpu i reoli'r risgiau hynny; sicrhau bod ymyrraeth gymesur ac amserol yn cael ei darparu a helpu i adeiladu perthnasoedd teuluol ac adnabod rhwydweithiau cymorth unigolion. • Bod yn gymwys i gynnal cofnodion cyfoes ac ysgrifennu adroddiadau.Eich dyletswyddau:• Cario llwyth bach o achosion. Asesu a rheoli risg mewn achosion mwy cymhleth, a chefnogi eraill i ddatblygu sgiliau rheoli risg. • Cyflawni tasgau y cytunwyd arnynt i gynorthwyo'r Rheolwr Tîm, megis Arolygu a goruchwylio Asesiadau a chynlluniau gofal.• Arwain mewn datblygiad proffesiynol a sesiynau ymarfer myfyriol o fewn y tîm; sy'n cwmpasu meysydd o ddiddordeb ac angen. • Dangos ymrwymiad i ddarparu safon uchel o ymarfer gwaith cymdeithasol trwy gyflawni ein dyletswyddau statudol a dilyn polisi a gweithdrefn.Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Janette McEwan - Rheolwr Tîm
Mae’n ofynnol o dan y swydd hon am destun Gwiriad Manwl y DBS