Am y rôl:Goruchwylio'r gwaith o ddarparu gwasanaeth cymorth gweinyddol effeithlon ac effeithiol i dimau gweithredol a chymorth. Mae'r rôl yn amrywiol a diddorol, rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau Gweinyddol a Chyllid rhagorol gan y bydd deilydd y swydd yn darparu rheolaeth llinell i Dimau Gweinyddol yn Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais sy'n cefnogi Gwasanaethau Oedolion. Mae’r timau y byddwch yn eu cefnogi – eu rheoli yn gweithio gartref ynghyd â darparu gwasanaeth yn y swyddfa, a gall y Goruchwylydd weithio'n hyblyg gan sicrhau rheolaeth ddigonol o'r timau hyn.Amdanoch chi:*Dull dymunol, proffesiynol ac empathig wrth ddelio â chydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd.*Y gallu i oruchwylio staff.*Sgiliau sefydliadol, gweinyddol, cyllid a chyfathrebu rhagorol a phrofedig*Y gallu i aml-dasgio, blaenoriaethu a chwrdd â therfynau amser gyda dull hyblyg o weithio.*Y gallu i weithio fel rhan o dîm.*Dealltwriaeth glir o bwysigrwydd cyfrinachedd.Eich dyletswyddau:• Bod yn gyfrifol am weithredu a chynnal arfer personél da gan wneud gwaith recriwtio, gallu perfformio a disgyblu.• Rheoli a chynnal ystod o systemau gwybodaeth er mwyn darparu gwybodaeth gywir a pherthnasol mewn modd amserol a chynorthwyo i gasglu ffurflenni ystadegol ar gyfer yr ardal ddaearyddol.• Sicrhau bod anfonebau'n cael eu talu'n brydlon i gyflenwyr a chodi cyfrifon i gleientiaid am daliadau y mae'n ofynnol iddynt eu gwneud i'r awdurdod ac ymdrin ag ymholiadau cysylltiedig.• Sicrhau cefnogaeth ac yswiriant priodol drwy reoli gwyliau blynyddol ac absenoldeb er mwyn diwallu anghenion busnes a chynnal lefel o barhad busnes • Monitro a gwirio llwyth gwaith staff gan sicrhau bod tasgau gweinyddol/ ariannol yn cael eu cyflawni'n brydlon ac yn gywir gan gadw at yr amserlenni gofynnol, dangosyddion perfformiad a rheolaeth ariannol.Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â Jasmine Crowther01597 827154
Mae angen Gwiriad Safonol y DBS i’r swydd hon