Mae angen i Ofalwyr Maeth Seibiant Byr ddarparu gofal rhan-amser rheolaidd i gefnogi plant a phobl ifanc lleol ag anableddau dysgu a/neu gorfforol, Awtistiaeth neu anghenion meddygol cymhleth ledled Powys.
Nid yw profiad o ofalu am bobl ag anableddau yn hanfodol, parodrwydd yn unig i weithio'n agos gyda theuluoedd plant a'r gweithwyr proffesiynol i ddarparu profiad seibiant byr gofalgar.
Bydd angen i chi gael ystafell wely sbâr, amser, egni a hyblygrwydd i ddarparu gofal cyson i bobl ifanc.
Rydym yn darparu hyfforddiant yn ogystal â lefel uchel o gymorth ac arweiniad 24/7 cynhwysfawr, a lwfans i'ch helpu i ddarparu'r seibiannau byr sydd eu hangen.
I gael mwy o wybodaeth am ddod yn Ofalwr Seibiant Byr i Bowys cysylltwch â'r tîm ar 0800 22 30 627 neu e-bostiwch [email protected]