Am y rôl:Bydd y Gweithiwr Cymorth yn cael ei gyflogi i adsefydlu oedolion â phroblemau iechyd meddwl yn y gymuned. Bydd disgwyl i'r Gweithiwr Cymorth gynghori a chefnogi pobl ag anawsterau iechyd meddwl a'u cynorthwyo i ddatblygu sgiliau personol, galwedigaethol a bywyd. Bydd y Gweithiwr Cymorth yn derbyn yr hyfforddiant perthnasol i gyflawni'r tasgau hyn.Amdanoch chi:• Y gallu i wrando a chyfathrebu'n effeithiol â defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a'r gweithwyr sy'n gysylltiedig ar bob lefel• Empathi ac amynedd• Y gallu i feddwl yn greadigol a helpu defnyddwyr gwasanaeth i ddod o hyd i atebion arloesol• Y gallu i sefydlu a chynnal perthnasoedd therapiwtig cadarnhaol gyda defnyddwyr gwasanaeth a'u gofalwyr• Y gallu i aros yn dawel a phroffesiynol mewn ymateb i ymddygiad llawn straen a heriolEich dyletswyddau:- Byddwch yn gyfrifol am gefnogi rhywun i aros yn eu cymuned.- Cefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau.- Cefnogi unigolion i gael mynediad at weithgareddau lleol gan gynnwys gweithgareddau cymdeithasol a hamdden.Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â Jonathan Thomas - Rheolwr Tîm (Pobl Hŷn ac Anableddau) Ffôn:01639 846507E-bost: [email protected]
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i’r swydd hon
I wybod mwy am weithio o fewn Gwasanaethau Oedolion, ewch i’r brif wefan