Am y rôl: Arwain y Tîm Synhwyraidd yn strategol i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei nodau strategol ar gyfer dysgwyr â nam synhwyraidd a/neu anghenion dysgu ac anableddau ychwanegol o fewn y fframwaith deddfwriaethol. Darparu arweinyddiaeth strategol i athrawon arbenigol, yr arbenigwr cymhwyso, CALU a hyfforddwr teithio ar gyfer plant a phobl ifanc â nam synhwyraidd ledled y sir. Cymryd rôl flaenllaw wrth hyrwyddo a chefnogi addysg gynhwysol plant a phobl ifanc â nam synhwyraidd. Amdanoch chi: Byddwch yn athro/athrawes cymwysedig gyda chymwysterau ychwanegol mewn addysgu plant a phobl ifanc fyddar neu â nam ar eu golwg ac mae gennych brofiad sylweddol o addysgu plant a phobl ifanc â nam ar y synhwyrau. Bydd gennych ddealltwriaeth ardderchog o'r gofynion sydd eu hangen ar gyfer plant a phobl ifanc â nam ar y synhwyrau i gael mynediad a mwynhau eu darpariaeth addysgol yn llwyddiannus. Eich dyletswyddau: Fel rhan o'r tîm Rheoli Cynhwysiant a Gwasanaethau Ieuenctid, byddwch yn cyfrannu at godi cyrhaeddiad pob plentyn a pherson ifanc yn ysgolion a lleoliadau Powys drwy addysg gynhwysol. Byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer athrawon arbenigol, arbenigwr cymhwyso, CALU a hyfforddwr teithio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Simon Anderson – Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiant a Gwasanaethau Ieuenctid. Simon.anderson@powys.gov.uk
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i’r swydd hon