Am y rôl:Ymgymryd â thasgau penodol sy'n ymwneud â dilysu data cleientiaid ar Systemau TGCh y Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi gwybodaeth reoli, gweithredu fel dolen gyswllt rhwng timau TGCh a thimau gweithredol ar faterion cymorth/meddalwedd, ymgymryd â hyfforddiant staff Gwasanaethau Cymdeithasol a chynorthwyo gyda Phrofion Derbyn Defnyddwyr systemau TGCh y Gwasanaethau Cymdeithasol.Amdanoch chi:- Y gallu i weithio'n annibynnol.- Sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys Microsoft Excel. - Sgiliau dadansoddi da.- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar. - Y gallu i aml-dasgio, blaenoriaethu a chwrdd â therfynau amser. - Sgiliau trefnu a gweinyddol da.Eich dyletswyddau:- Darparu adroddiadau perfformiad ar gyfer timau penodol o fewn Gwasanaethau Plant.- Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ansawdd data i hwyluso gwelliant parhaus o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, o fewn y Gwasanaeth drwyddo draw.- Cynnal archwiliadau rheolaidd ar sail un-i-un gyda staff gweithredol. - Cynorthwyo gyda phrofion derbyn defnyddwyr ac uwchraddio modiwlau ar system TGCh y Gwasanaethau Cymdeithasol. - Glanhau data yn rheolaidd, gan gynnwys dileu neu symud data o fewn system TGCh y Gwasanaethau Cymdeithasol.- Cynorthwyo staff gyda chymorth a chyngor parhaus mewn perthynas â systemau TGCh y Gwasanaethau Cymdeithasol.Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â Jess Watlow01874612162[email protected]
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i’r swydd hon
Lleoliad/Canolfan Waith - Ar Draws y Sir