Am y rôl: Rôl brysur, sy'n chwarae rhan bwysig o fewn tîm Drws Ffrynt Gwasanaethau Plant Powys; gan ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau gwaith cymdeithasol uwch, ynghyd â sgiliau arweinyddiaeth, i helpu i sicrhau bod plant yn cael mynediad at y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Mae'r PSW yn helpu i arwain y gwasanaeth Drws Ffrynt i gyflawni penderfyniadau amserol ac o ansawdd. Amdanoch chi: • Profiad ôl-gymhwyso sylweddol profedig gan gynnwys profiad manwl yn y maes gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd, gan gynnwys gwaith Drws Ffrynt/MASH. • Profiad o hyfforddi/mentora gan gynnwys addysgu ymarferol • Profiad o waith Amlasiantaethol ar lefel uwch • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth gyfredol, canllawiau cenedlaethol ac arfer gorau. • Ymrwymiad i gyflawni'r safonau ymarfer proffesiynol uchaf posibl gan bob aelod o’r tîm trwy gydweithio, hyfforddi/mentora a darparu cyngor, arweiniad a chymorth. Eich dyletswyddau: • Cyfarparu’r tîm i weithio'n gyflym i gwblhau elfen Drws Ffrynt y gwaith ar atgyfeiriadau i Wasanaethau Plant • Blaenoriaethu'r galwadau niferus ar y tîm sy’n aml yn cystadlu a’i gilydd • Cadeirio cyfarfodydd amlasiantaethol • Gwneud penderfyniadau effeithiol • Sicrhau bod asesiadau'n gymesur â'r angen • Sicrhau ansawdd gwaith y tîm a darparu cymorth i wella arfer yn barhaus. Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â Richard Morrison – richard.morrison1@powys.gov.uk
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i’r swydd hon