Ynglŷn â'r rôl: Yn cynorthwyo arweinydd lleoliad i gynllunio, adolygu a chyflwyno profiadau sy'n seiliedig ar chwarae o ansawdd da / cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen a gyda gofal disgyblion, iechyd, diogelwch, lles, cymorth emosiynol ac ymddygiad. Cyfrannu at ddarparu amgylchedd cynnes a chroesawgar yn y lleoliad lle gall plant a gofalwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a chael cymorth a chefnogaeth gadarnhaol ar gyfer ystod o weithgareddau. Mae'r swydd yn derbyn cyfarwyddyd gan ac mae'n atebol i'r Arweinydd Lleoliad neu'r 'unigolyn cyfrifol' neu uwch aelod arall o staff. Amdanoch chi: • Meddu ar brofiad o weithio fel oedolyn ychwanegol mewn lleoliad gofal plant. • Bod â phrofiad o weithio o fewn Dechrau'n Deg. • Meddu ar ddealltwriaeth o anghenion dysgu ychwanegol. • O leiaf TGAU/TAG (neu gyfwerth) mewn llythrennedd a rhifedd ac wedi cyflawni o leiaf NVQ3 neu fod â phrofiad neu gymhwyster cyfatebol mewn disgyblaeth sy'n gysylltiedig â phlant. Beth fyddwch chi'n ei wneud: Darparu cymorth fel oedolyn ychwanegol i wella cyfleoedd chwarae, a gwasanaethu fel gweithiwr allweddol i weithredu cynllunio ac arsylwadau effeithiol. Cyfathrebu'n effeithiol â rhieni i ddarparu diweddariadau rheolaidd ar gynnydd eu plentyn, a chydweithio ar strategaethau i gefnogi eu datblygiad. Cwblhau'r holl waith papur perthnasol yn effeithlon a sicrhau uwchlwythiadau amserol i'r system Tyfu
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS