Am y rôl: Bydd rôl y Cydlynydd Diogelu yn sicrhau bod cyfarfodydd Diogelu yn cael eu cydlynu a'u cefnogi'n effeithlon ac yn effeithiol ar gyfer Tîm Diogelu Plant Powys. Mae hyn yn cynnwys rheoli a chofnodi ar wahanol systemau cofnodi yn unol â gofynion deddfwriaethol. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid allanol. Amdanoch chi: • Bod yn drefnus, cadw at gyfrinachedd, cofnodi a throsglwyddo gwybodaeth yn fanwl gywir. • Bod â dull rhagweithiol a heriol o weithio. • Dangos empathi a gwydnwch wrth ddod i gysylltiad â gwybodaeth drawmatig. • Meddu ar sgiliau TGCh rhagorol. • Croesawu Polisi Gweithio Hyblyg Powys. • Bod ag angerdd dros gefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd ym Mhowys. Beth fyddwch chi‘n ei wneud: • Cydlynu a chofnodi cyfarfodydd cymhleth fel Cynadleddau Diogelu Plant, Cyfarfodydd Strategaeth Broffesiynol a Chyfarfodydd Strategaeth Camfanteisio Ar Blant. • Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer asiantaethau partner, gweinyddiaeth diogelu ac ymateb i ystod o ymholiadau dros y ffôn/ysgrifenedig, gwirio ceisiadau ar gofrestrau/systemau gwybodaeth a chyflawni tasgau cysylltiedig gan gynnwys prosesu post sy'n dod i mewn/allan. • Drafftio llythyrau argymhellion yn dilyn Cynadleddau Achos Diogelu Plant, gan nodi'r wybodaeth berthnasol o'r drafodaeth sy'n sail i'r Cynllun Diogelu Plant. • Sicrhau cydymffurfiaeth â, llunio ac adrodd ar ystadegau dangosyddion perfformiad amserol a chywir. • Cynnal y safonau uchaf o gyfrinachedd a diogelwch a sicrhau bod yr holl gofnodion yn cael eu cynnal i gydymffurfio â gofynion GDPR. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Charlotte Watkins (Goruchwyliwr Diogelu): charlotte.watkins@powys.gov.uk Lydia Hanson (Cydlynydd Diogelu Arweiniol): lydia.hanson@powys.gov.uk