Ynglŷn â'r rôl: Pwrpas y rôl yw cynorthwyo'r tîm Seicoleg Addysgol. Darparu gwasanaeth seicoleg addysgol ar gyfer y plant, pobl ifanc a'u lleoliadau. Amdanoch chi: Bod yn chwaraewr tîm da gyda lefel uchel o sgiliau rhyngbersonol. Ymrwymiad i weithio ar y cyd. Gallu addasu i ofynion gweithio’n annibynnol, gweithio dan oruchwyliaeth ac fel rhan o dîm yn ôl y gofyn. Beth fyddwch chi'n ei wneud: Cefnogi a chyfrannu at rôl y Seicolegydd Addysg wrth ddarparu gwasanaeth seicoleg addysgol o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n gynaliadwy i ysgolion a lleoliadau ym Mhowys. Cynnal arsylwadau mewn lleoliadau, gyda chaniatâd rhiant/rhieni'r plentyn. Cwblhau rhestrau gwirio o ddatblygiad plant, gyda chanllawiau gan Seicolegydd Addysg. Casglu a choladu gwybodaeth ar gyfer ymgyngoriadau gan Seicolegydd Addysg. Cynorthwyo i baratoi a chyflwyno sesiynau hyfforddi proffesiynol a hwylusir gan Seicolegwyr Addysg. Casglu adnoddau i gefnogi ymgyngoriadau a/neu sesiynau hyfforddi gan Seicolegwyr Addysg. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Dewi Rowland Hughes, Prif Seicolegydd Addysgol dewi.hughes@powys.gov.uk
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad DBS Uwch