Am y rôl: Cefnogi'r Tîm Datblygu Ymarfer i gyflawni amcanion y strategaeth Gofal a Llesiant i gynyddu capasiti a gallu drwy arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni swyddogaeth hyfforddiant proffesiynol datblygu Gwaith Cymdeithasol ar draws y Meysydd Gwasanaeth. Datblygu sylfaen cwsmeriaid allanol a chynhyrchu incwm drwy gyflenwi cyfleoedd Dysgu Ymarfer Gwaith Cymdeithasol a’u datblygu. Adeiladu partneriaethau gyda chyflogwyr eraill yn y sector cyhoeddus a Sefydliadau Addysg Uwch i rannu arfer gorau.Amdanoch chi: Mae gennych brofiad ôl-gymhwyso sylweddol sy'n cynnwys yn gwybodaeth fanwl o’r maes gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd a gwaith cymdeithasol gydag oedolion. Yn ogystal â hynny, mae gennych brofiad o asesu a goruchwylio gweithwyr cymdeithasol dan hyfforddiant mewn cyfleoedd dysgu ymarferol (lleoliadau) a phrofiad o oruchwylio staff. Mae gennych brofiad sylweddol o weithio rhyngasiantaethol a phrofiad uniongyrchol o nodi anghenion hyfforddi ar gyfer unigolion a grwpiau o staff. Mae gennych brofiad hefyd o Reoli cyllideb a gwaith amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol. Mae gennych wybodaeth dda am y fframwaith statudol a deddfwriaethol presennol, canllawiau cenedlaethol ac arfer gorau sy'n berthnasol i'r swydd. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ymchwil gyfredol a'r gallu i gyfathrebu a dylanwadu ar eraill i ddangos ei fod yn parhau i drosglwyddo i ymarfer yn ogystal â gwybodaeth am fframweithiau a gofynion cyfredol ar gyfer hyfforddiant ar gyfer cymhwyso ac ôl-gymhwyso ar gyfer gwaith cymdeithasol a gwybodaeth fanwl am ddysgu a datblygu a'r damcaniaethau sy'n gysylltiedig ag ef. Byddwch yn gwybod sut y gellir darparu dysgu a datblygu ac mae gennych wybodaeth am hyfforddi a mentora a gweithrediad rhwydweithiau amlasiantaethol. Bydd yn meddu ar allu da i ysgrifennu a chyflwyno adroddiadau. Bydd gennych gymhwyster Gwaith Cymdeithasol Proffesiynol ac rydych wedi eich cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru. Rydych hefyd yn meddu ar Ddyfarniad Addysgu Ymarfer neu Fodiwl Aseswyr Ymarfer ar Lefel 7 a chymhwyster hyfforddiant pellach e.e. Uned Aseswyr FfCCh. Os nad oes gennych unrhyw gymwysterau hyfforddiant pellach, byddwch yn barod i ymrwymo i ymgymryd ag unrhyw gymhwyster sy'n berthnasol i'r swydd hon yn ôl y diffiniad yn Fframwaith Cymwysterau Gwasanaethau Cymdeithasol Powys.Yr hyn y byddwch yn ei wneud: Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r timau gweithredol yn y Gwasanaethau i Blant ac Oedolion yn ogystal â'r Brifysgol Agored. Byddwch yn cefnogi ein holl fyfyrwyr GOOSW yn ogystal â Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso ac Addysgwyr Ymarfer. Byddwch yn cefnogi'r Tîm Datblygu Ymarfer i gyflawni amcanion y strategaeth Gofal a Lles i gynyddu capasiti a gallu drwy arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni swyddogaeth hyfforddiant proffesiynol datblygu Gwaith Cymdeithasol ar draws y Meysydd Gwasanaeth. Byddwch yn adeiladu partneriaethau gyda chyflogwyr eraill yn y sector cyhoeddus a Sefydliadau Addysg Uwch i rannu arfer gorau.Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Melanie Brindle – Rheolwr Datblygu Ymarfer
Mae'r swydd hon yn ddibynnol ar wiriad DBS Safonol