Am y rôl:Mae gwaith y Tîm Gofal a Chymorth yn canolbwyntio ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd lle cafwyd asesiad Gwaith Cymdeithasol a lle nodwyd bod angen gwasanaethau ychwanegol arnynt. Gall hyn fod yn blant sydd angen eu hamddiffyn, angen gofal a chymorth neu deuluoedd yn y broses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO) neu mewn achos llys. Mae sylfaen sgiliau cymysg o fewn y tîm o Weithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Lles profiadol. O ddydd i ddydd, mae'r tîm yn cael ei gefnogi’n dda gan 2 Gydlynydd Tîm sy'n cynorthwyo gyda nifer o dasgau gan gynnwys, trefnu a chadw cofnodion mewn cyfarfodydd, paratoi cronolegau a chymorth busnes cyffredinol arall. Fel tîm rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol a dilyniant gyrfa pob aelod o'r tîm. Mae'r Tîm Maethu yn goruchwylio pob agwedd o’r rôl maethu, o recriwtio a chadw gofalwyr maeth prif ffrwd, yn ogystal ag asesu a chefnogi ffrindiau a theulu sy'n maethu. Mae gan weithwyr cymdeithasol sy’n goruchwylio lwythi achos hylaw, maen nhw’n cael cyfnod cynefino trylwyr, yn cael goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd yn ogystal â chymorth a mentora ychwanegol pan fo angen. Y sgiliau a’r brwdfrydedd angenrheidiol i'r swydd •Byddwch yn gallu darparu cymorth priodol i blant a theuluoedd, gan ddefnyddio eich brwdfrydedd a'ch cymhelliant i hyrwyddo canlyniadau llwyddiannus. • Byddwch yn fedrus ac yn hyderus wrth gyfathrebu ag eraill er mwyn cynnal ymgysylltiad â theuluoedd mewn amgylchiadau newidiol, gan gynnwys lle mae gelyniaeth a risg. • Byddwch yn greadigol yn eich gwaith gyda phlant gan mabwysiadu'r defnydd o offer i'w hannog i rannu eu dymuniadau a'u teimladau. • Bydd angen ystod eang o wybodaeth a sgiliau arnoch i nodi'r ystod lawn o risgiau i blant a helpu i reoli'r risgiau hynny; gan sicrhau y darperir ymyrraeth gymesur ac amserol. Helpu i adeiladu cydberthnasoedd teuluol ac adnabod rhwydweithiau cymorth unigolion. • Bydd angen i chi fabwysiadu model ymyrraeth a phrofiad sy'n seiliedig ar gryfderau a byddai defnyddio'r model hwn yn ddymunol.Beth fydd deilydd y swydd yn ei wneud yn y rôl?:Darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol i blant a phobl ifanc unigol gyda'r bwriad o'u cadw'n ddiogel a'u galluogi i gyflawni eu potensial llawn mewn lleoliad sy'n darparu sefydlogrwydd cyfreithiol.
• Gweithio fel rhan o dîm, gan ymgymryd â thasgau ar sail dyletswydd rota, a darparu gwasanaeth llanw ar gyfer cydweithwyr sy'n absennol.
• Meithrin a chynnal cydberthnasoedd gwaith da gyda chydweithwyr a phartneriaid sy'n galluogi'r tîm i weithio'n effeithiol.
• Nodi materion risg mewn perthynas ag amgylchiadau plant unigol, a sicrhau bod diogelu ar waith er mwyn lleihau'r risgManylion cyswllt ar gyfer trafodaethau am y rôl:Janette McEwan Rheolwr Tîm neu Juliet Grey Prif Weithiwr Cymdeithasol
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS