Am y rôl: Bydd deiliad y swydd yn arwain ac yn cefnogi comisiynu a rheoli prosiectau gwasanaethau Cymorth Cartref i oedolion 50 oed a hŷn ledled Powys. Nod y gwasanaethau hyn yw helpu unigolion i fyw'n annibynnol, yn ddiogel ac yn hyderus gartref. Mae'r rôl yn cynnwys rheoli pob cam o'r cylch comisiynu, gan gynnwys dadansoddi anghenion, adolygu gwasanaethau, caffael, monitro contractau a gwerthuso perfformiad. Amdanoch chi: Cefndir cryf mewn rheoli prosiectau, dadansoddi data a gweithio mewn partneriaeth. Profiad mewn gofal cymdeithasol i oedolion neu feysydd cysylltiedig. Sgiliau cyfathrebu, ysgrifennu adroddiadau a TG rhagorol. Y gallu i reoli llwythi gwaith cymhleth a gweithio'n annibynnol. Dealltwriaeth o gomisiynu, caffael a deddfwriaeth berthnasol. Eich dyletswyddau: Arwain a rheoli nifer o brosiectau a ffrydiau gwaith comisiynu. Cefnogi datblygiad a monitro gwasanaethau Cymorth Cartref. Cydweithio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Monitro cyllidebau prosiectau a sicrhau cydymffurfiaeth ariannol. Dadansoddi data i lywio datblygiad gwasanaethau ac adrodd ar berfformiad. Drafftio adroddiadau, hwyluso cyfarfodydd, a chefnogi prosesau ymgynghori. Sicrhau bod gwasanaethau'n bodloni gofynion statudol a chyfreithiol. Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â recruitment@powys.gov.uk
Bydd rhaid cael gwiriad safonol y DBS ar gyfer y swydd hon.