Am y rôl:Rôl y gweithiwr ymyrraeth yw gweithio'n agos at blant, teuluoedd a phobl ifanc sy'n agored i wasanaethau plant statudol. Bydd y gweithiwr ymyrraeth yn darparu ymyriadau â ffocws, gwaith ataliol ac yn darparu cymorth i helpu i sicrhau newid cadarnhaol a gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Gweithio'n agos at weithwyr cymdeithasol, asiantaethau a gwasanaethau gyda'r nod o gynnal yr uned deuluol a chadw teuluoedd gyda'i gilydd lle bo hynny'n bosibl.Amdanoch chi:• Y gallu i fod yn hyblyg ac addasu i sefyllfaoedd sy'n newid.• Bod ag empathi a thosturi tuag at unigolion sydd wedi cael profiadau bywyd niweidiol ac sy'n dal i wynebu heriau yn eu bywydau bob dydd.• Gallu gweithio'n effeithiol a pheidio cynhyrfu mewn argyfwng a phan fo amgylchiadau'n gymhleth.• Angen bod â’r gallu i reoli eich dyddiadur eich hun. • Angen cyfathrebu'n effeithiol a dangos agwedd empathig tuag at anghenion plant a rhieni.• Bod yn gymwys i weithio ar-lein a chofnodi gwybodaeth ar gronfa ddata electronigEich dyletswyddau:• Cefnogi plant a theuluoedd i aros gyda'i gilydd a chynnal newid cadarnhaol. • Cynorthwyo plant a theuluoedd ar adeg o argyfwng • Mynychu cyfarfodydd amlasiantaethol a gweithio mewn partneriaeth â thimau addysg, iechyd a gwaith cymdeithasol• Cefnogi Rhwydweithiau Teuluol trwy waith uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd neu ofalwyr• Gweithio'n unol â dulliau sy'n canolbwyntio ar ddatrysiadau ac yn seiliedig ar gryfder. • Cefnogi rhieni a phlant gyda'u cydnerthedd emosiynolAm ragor o wybodaeth am y swydd hon, anfonwch e-bost at cheryl.mcIntyre@powys.gov.uk neu paul.morgan1@powys.gov.uk gyda'ch manylion cyswllt
Bydd angen Gwiriad Manylach y DBS i’r swydd hon