Bydd taliad atodol ar sail y farchnad yn berthnasol i’r swydd hon – i’w drafod yn ystod y cyfweliad
Am y rôl:Diben cyffredinol rôl y Rheolwr Tîm yw sicrhau bod gwaith y tîm yn canolbwyntio, o fewn fframweithiau polisi a gweithdrefnol y cyngor, ac yn gyson â'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gweithio gyda phlant a'u teuluoedd. Dylai'r Rheolwr Tîm sicrhau bod dull gweithredu ar gyfer y gwaith sy’n dawel ac yn drefnus, gydag aelodau'r tîm yn cydweithio i wella bywydau plant a phobl ifanc. Rôl y Rheolwr Tîm yw creu'r amodau hyn yn y tîm, wrth reoli gwaith y tîm yn weithredol. Y sgiliau a brwdfrydedd sy’n angenrheidiol i'r swydd: Amdanoch chi:Bydd taliad atodol ar sail y farchnad yn berthnasol i’r swydd hon – i’w drafod yn ystod y cyfweliad• Byddwch yn frwd dros gefnogi newid i blant a theuluoedd a/neu ofalwyr.• Byddwch yn drefnus ac yn hyblyg i ddiwallu anghenion y rhai yr ydych chi a'ch tîm yn eu cefnogi.• Bydd gennych sgiliau cyfathrebu ac ysgrifenedig da. • Byddwch yn gallu adnabod risg a llunio cynlluniau diogelwch, gan ddefnyddio arferion sy'n seiliedig ar gryfderau • Bydd gennych ddealltwriaeth gadarn o Ail-lansio'r PLO a'i weithredu yn ymarferolBeth fydd deilydd y swydd yn ei wneud yn y rôl?:• Darparu sgiliau arweinyddiaeth gadarn i'r tîm• Darparu canllawiau a chyngor arbenigol i'r gwasanaeth ehangach ynghylch prosesau Amddiffyn Plant a chynllunio gofal• Cefnogi'r gwasanaeth wrth fwrw ymlaen â nodau ail-lansio'r PLO• Darparu goruchwyliaeth fyfyriol o ansawdd uchel i'r tîm• Eiriolwr dros blant a phobl ifanc i gyflawni eu potensialManylion cyswllt ar gyfer trafodaethau am y rôl:Gavin Williams – Uwch Reolwr
[email protected]01597 827325
Mae’r swydd hon yn gofyn am Archwiliad DBS Manylach