Mae nifer o swyddi ar gael
Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys: 1. Bod yn gyfrifol am weithredu Cynlluniau Personol i gyflawni canlyniadau unigol wrth adennill sgiliau, annibyniaeth, a gofynion cymorth parhaus. Cynorthwyo neu alluogi defnyddwyr gwasanaeth i barhau i fyw o fewn y gymuned, gwella ansawdd eu bywydau, eu cefnogi a'u cynnal yn ddiogel yn eu hamgylchedd eu hunain. Cydymffurfio â gofynion gwasanaeth a gofrestrwyd gydag Arolygiaeth Gofal Cymru o dan Ddeddf Cofrestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol 2016. 2. Cynorthwyo pobl i ddiwallu eu hanghenion a'u canlyniadau asesiedig a nodwyd mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Cefnogi pobl allai fod â chynllun ysgrifenedig gan therapydd iechyd, sydd o bosibl yn defnyddio amrywiaeth o leoliadau gwahanol. Dylid cyflawni’r tasgau hyn yn unol â hyrwyddo annibyniaeth gymaint â phosibl. 3. Cynorthwyo pobl gyda’u gofal personol, ynghyd â thasgau trin â llaw a allai gynnwys offer symud pobl lle bo angen, ac estyn cymorth wrth weinyddu meddyginiaeth yn unol â'u cynllun personol. 4. Cynorthwyo pobl i adnabod ac ailgysylltu â'u cymuned a'u rhwydweithiau lleol. Annog yr unigolyn ym mhob maes gyda phwyslais arbennig ar gynnal a chynyddu annibyniaeth lle bynnag y mae hyn yn bosibl. 5. Deall beth sy'n bwysig i unigolyn a'i helpu i reoli risgiau i sicrhau'r dewis a'r rheolaeth fwyaf posibl dros ei fywydau. Gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth, wrth adennill eu hannibyniaeth mewn sgiliau byw bob dydd, gan gynnwys gofal personol. Gall hefyd gynnwys ychydig o warchod yn ystod y nos.
Bydd angen Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i’r swydd hon