Unfortunately, this vacancy has now closed. Other suitable opportunities may be available, please use the 'Search for jobs' page to see a list of our current vacancies.
 Cliciwch i rolio i   Cliciwch i rolio i   undefined Cliciwch i ddewis mis.  undefined Cliciwch i ddewis blwyddyn. undefined
Wthns.LlunMawMerchIauGwenSadSul
NaN 
??? yw hi heddiw Sad, 19 Gor 2025
Ymlaen i broffil y swydd Ymlaen i fanylion y swydd
Powys Logo
Chwilio am swydd
  • Chwilio am swydd
  • Fy ngheisiadau
  • Fy mhroffil
  • Accessibility Statement
  • English
 Unfortunately, this vacancy has now closed. Other suitable opportunities may be available, please use the 'Search for jobs' page to see a list of our current vacancies.

Proffil o'r swydd

Mae gofynion y swydd i'w gweld isod. Lle'n berthnasol, mae'r sgiliau, cymwysterau ac aelodaeth sydd eu hangen i'r swydd hefyd wedi'u cynnwys. Sicrhewch eich bod yn diwallu POB UN o'r meini prawf hanfodol cyn gwneud cais. Cofiwch lenwi POB adran neu mae'n bosibl na wnawn ystyried eich cais. Mae Cyngor Sir Powys yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu'n Saesneg. Cliciwch ar yr eicon Cymraeg ar dop ochr dde'r sgrin i newid i'r wefan Gymraeg.

Manylion y swydd

Cyfeirnod y Swydd
AMM0168B
Dyddiad postio
20/06/2025
Dyddiad cau'r cais
11/07/2025
Lleoliad
Y Drenewydd
Cyflog
Graddfa 5 + 17.5% Pwynt 107 i Bwynt 109 £30,061 i £31,031 y flwyddyn ar gyfartaledd
Pecyn
21 awr, Parhaol
Contractual hours
21
Basis
Rhan amser
Categori / math o swydd
Gofal Oedolion
Attachments
AMM0168 Eng Job Description.pdf AMM0168 Cym Swydd Ddisgrifiad.pdf

Gweithiwr Cymorth - Tenantiaethau â Chymorth

Swydd-ddisgrifiad

Am y rôl:
Byddwch yn cefnogi Oedolion sydd ag Anabledd Dysgu i reoli eu cartref eu
hunain o ran y prif gyfrifoldebau a nodir yn y Swydd ddisgrifiad. Byddwch yn
gweithio i rota chwe wythnosol yn amodol ar newid i ddiwallu anghenion y
gwasanaeth. Sylwch fod gofyniad i weithio shifftiau dydd a gyda'r nos, hefyd ar benwythnosau a Gwyliau Banc.
Amdanoch chi:
• Bydd gennych agwedd gadarnhaol a brwdfrydedd i weithio gyda phobl sydd ag Anabledd Dysgu.
• Byddwch chi’n gallu darparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn
canolbwyntio'n gryf ar ganlyniadau cadarnhaol a chynnyddu llesiant pobl.
• Bydd gennych agwedd allblyg a chyfeillgar gydag agwedd gadarnhaol ac awydd i fodloni’r holl heriau ac agweddau gofynnol y rôl.
• Byddwch chi gallu meddwl y tu allan i'r blwch a dod o hyd i atebion creadigol.
• Byddwch chi bob amser yn croesawu ac yn cyflawni'r gwerthoedd corfforaethol ym mhopeth a wnawn, sef; Proffesiynol, Cadarnhaol-flaengar, Agored, Cydweithredol.
• Bydd gennych y sgiliau a'r wybodaeth am sut i drin pobl ag anableddau dysgu fel unigolion gwerthfawr ag urddas, parch a hawliau cyfartal fel bod ganddynt lle cyflawn mewn cymdeithas, ac annog eraill i wneud hynny hefyd.
Yr hyn y byddwch yn ei wneud:
• Cefnogi pobl ag anableddau dysgu i ddatblygu eu sgiliau a'u hannibyniaeth drwy arddangos a modelu gweithgareddau.
• Gweithio ochr yn ochr â thîm staff ymroddedig a gweithwyr proffesiynol eraill yng nghartref y defnyddwyr gwasanaeth eu hunain a lleoliadau gofynnol eraill.
• Ymgymryd â thasgau ymarferol a chefnogi pobl gyda'u gofal personol,
gweithgareddau domestig ac yn gymdeithasol yn y gymuned.
• Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i adeiladu a chynnal cysylltiadau teuluol a
chyfeillgarwch a chyrraedd nodau a chyflawni canlyniadau personol.
• Cymryd rhan adeiladol mewn sesiynau goruchwylio ac arfarnu staff yn rheolaidd.
• Cyfrannu at asesiadau ysgrifenedig a Chynlluniau Gofal a mynychu cyfarfodydd
Cynllunio Gofal gan lunio a chadw cofnodion ac adroddiadau manwl.
• Cymryd rhan/mynychu hyfforddiant gofynnol i ddatblygu, tyfu ac ennill sgiliau i wella'r rôl.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â:
Helen Kelleher, Arweinydd Tîm Tenantiaethau â Chymorth ar 01686 627021 neu helen.kelleher@powys.gov.uk

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manwl gan y
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

 

 

Data Protection and Privacy


Terms and Conditions

Stronger, fairer, greener

 

 
Follow us  
Powys Twitter : opens in new browser window or tabPowys Facebook : opens in new browser window or tab
© 2023 - Powys County Council