Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys: Cynorthwyo’r Rheolwr Tîm i reoli llwyth gwaith y tîm a hyrwyddo asesu effeithiol, cynllunio gofal, ymyrraeth ac arolygon ar gyfer oedolion hŷn gan gynnwys diogelu. Cynorthwyo’r rheolwr tîm i reoli cyllidebau wedi’u dirprwyo. Rheoli gweithwyr cymdeithasol a swyddogion cymorth cymunedol. Cynnal asesiadau a rheoli gofal o achosion yn annibynnol o fewn paramedrau’r Cyngor, gan ddangos gallu i ddelio ag achosion cymhleth. Bydd hyn yn cynnwys perthnasau cymhleth, lefel uchel o risg i bobl hŷn. Dirprwyo yn absenoldeb Rheolwr y Tîm.
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS