Am y rôl:Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cymwys parhaol i ymuno â’r Gwasanaeth Anabledd Integredig i Blant, yn Ne Powys. Mae'r rôl hon ar gyfer swydd gwaith cymdeithasol bron yn llawn amser, 29.2 awr, dros 4 diwrnod. Rydym yn dîm o weithwyr cymdeithasol a gweithwyr Lles sy'n cysylltu'n agos â sefydliadau iechyd, addysg a sefydliadau eraill i asesu a chefnogi plant ag anableddau sylweddol neu ddiagnosis iechyd. Byddwch wedi'ch lleoli yn ne Powys ac mae'r rôl hon yn cynnwys gweithio'n rhannol mewn swyddfa, a gweithio'n rhannol o gartref. Rôl gwaith cymdeithasol yw’r rôl hon, ac mae’r gwaith yr ydym yn ei wneud yn debyg i waith unrhyw dîm gwaith cymdeithasol arall o ran asesu, cynllunio ac adolygu. Mae gennym gydberthynas rhagorol gyda’n cydweithwyr iechyd ac addysg sy’n bwydo i mewn i asesiadau a chynlluniau ac yn ein cefnogi i ddeall effaith anabledd plentyn neu angen iechyd cymhleth er mwyn llywio’r broses hon.Amdanoch chi:-Rydym yn chwilio am gydweithiwr brwd, sy'n gallu meddwl ar eu traed, meddwl y tu allan i'r bocs, a bod yn barod i gefnogi eu tîm lle bo angen, tra hefyd yn defnyddio'r profiad o fewn y tîm i sicrhau canlyniadau da i blant ag anableddau a'u teuluoedd.-Bydd angen i chi feddu ar sgiliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn: mae ein gwaith yn aml yn gofyn am dosturi, sgiliau gwrando da ac ymagweddau empathig at weithio.-Bydd angen i chi gael profiad o ddatblygu ac adolygu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar y plentyn-Bydd angen i chi fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.-Dymunol – profiad o reoli gwahanol flaenoriaethau yn effeithiol e.e. CP, CLA a Gofal a Chymorth.-Dymunol – profiad o weithio'n effeithiol gydag ystod o weithwyr proffesiynol a sicrhau bod lles gorau'r plentyn bob amser yn cael ei hyrwyddo.Eich dyletswyddau:-Mae’r rôl gwaith cymdeithasol hon yn cwmpasu elfennau o bob rhan o faes gwaith cymdeithasol plant, gan fod y tîm IDS yn dîm gofal drwodd a gallech fod yn ymgymryd â chymysgedd o arferion gwaith cymdeithasol; achosion newydd ar gyfer asesu, Gofal a Chymorth, Amddiffyn Plant, plant sy'n derbyn gofal ac weithiau, rhywfaint o waith llys/gwaith mabwysiadu.-Rydym yn cynnig llwyth achosion hawdd i drin ag, gydag achosion tymor hir yn bennaf, mewn tîm profiadol, cyfeillgar a chefnogol.-Rydym yn cefnogi plant sydd ag anabledd neu ddiagnosis iechyd i fyw bywyd hapus, sefydlog a boddhaus. Gallai hyn olygu cefnogi plant sy’n profi nam niwrolegol, anableddau dysgu, a/neu ddiagnosis iechyd amrywiol, megis Parlys yr Ymennydd, syndrom Down, cyflyrau genetig, Epilepsi, nam ar y synhwyrau, a nam symudedd. Mae gan rai plant rydym yn eu cefnogi mewnbwn iechyd, neu ddiagnosis cyd-forbidrwydd a gallent hefyd brofi trawma, Awtistiaeth, neu ADHD.-Rydym hefyd yn cynnal asesiadau gofalwyr fel rhan o rôl gwaith cymdeithasol – mae’r agwedd hon bellach wedi’i symleiddio drwy gael ei hymgorffori yn yr Asesiad Llesiant.
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS