Am y rôl: Mae gwaith y Tîm Gofal a Chymorth yn canolbwyntio ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd lle bu Asesiad Gwaith Cymdeithasol a lle nodwyd anghenion am gymorth a goruchwyliaeth gan y Gwasanaethau Plant. Gall hyn fod yn blant sydd angen eu hamddiffyn, gofal a chymorth neu deuluoedd yn y broses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO) neu mewn achos llys. Mae amrywiaeth o sgiliau o fewn y tîm o Weithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Lles profiadol. O ddydd i ddydd, mae'r tîm yn cael cefnogaeth dda gan y Cydlynydd Tîm sy'n cynorthwyo gyda nifer o dasgau gan gynnwys trefnu a chymryd cofnodion cyfarfodydd, paratoi cronolegau a chymorth busnes cyffredinol arall. Fel tîm rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol a dilyniant gyrfa pob aelod o'r tîm.Amdanoch chi: Byddwch yn gallu darparu cefnogaeth briodol i blant a theuluoedd, gan ddefnyddio eich brwdfrydedd a'ch cymhelliant i hyrwyddo canlyniadau llwyddiannus. • Byddwch yn fedrus ac yn hyderus wrth gyfathrebu ag eraill er mwyn cynnal ymgysylltiad â theuluoedd mewn amgylchiadau newidiol, gan gynnwys lle mae gelyniaeth a risg. • Byddwch yn greadigol yn eich gwaith gyda phlant ac yn mabwysiadu'r defnydd o becynnau cymorth i'w hannog i rannu eu dymuniadau a'u teimladau.• Bydd angen ystod eang o wybodaeth a sgiliau arnoch i nodi'r ystod lawn o risgiau i blant a helpu i reoli'r risgiau hynny; sicrhau y darperir ymyrraeth gymesur ac amserol. Helpu i adeiladu perthnasoedd teuluol ac adnabod rhwydweithiau cymorth unigolion. • Byddai’r gallu i fabwysiadu model ymyrraeth a phrofiad sy'n seiliedig ar gryfderau wrth ddefnyddio'r model hwn yn ddymunolYr hyn y byddwch yn ei wneud: Darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol i blant a phobl ifanc unigol gyda'r bwriad o'u cadw'n ddiogel a'u galluogi i gyflawni eu potensial llawn mewn lleoliad sy'n darparu sefydlogrwydd cyfreithiol. • Gweithio fel rhan o dîm, gan ymgymryd â thasgau ar sail dyletswydd rota, a darparu gwasanaeth llanw ar gyfer cydweithwyr sy'n absennol. • Meithrin a chynnal perthnasoedd gwaith da gyda chydweithwyr a phartneriaid sy'n galluogi'r tîm i weithio'n effeithiol. • Nodi materion risg mewn perthynas ag amgylchiadau plant unigol, a sicrhau bod diogelu ar waith er mwyn lleihau'r risgOs oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch ag: Emma Wright Rheolwr Tîm neu Kirsty Astley Prif Weithiwr Cymdeithasol
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS