Gwasanaethau Plant
Mae gwasanaeth Maethu Powys yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer y rolau canlynol: Cadeirydd Panel Annibynnol Profiadol; Is-gadeirydd y Panel; Aelodau Annibynnol y Panel mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau; yn enwedig aelodau panel sydd â phrofiad o fod yn ofalwr maeth ac aelodau o gefndir addysg.
Dylai deiliaid y swyddi fod â gwybodaeth berthnasol am anghenion amrywiol plant sy'n Derbyn Gofal ac sy'n cael eu mabwysiadu. Dylai deiliaid y swyddi fod yn frwd dros wneud gwahaniaeth i brofiad bywyd plant.
Ar hyn o bryd, cynhelir Paneli Maethu wyneb yn wyneb yn Neuadd y Sir Cyngor Powys yn Llandrindod ar yr ail ddydd Mawrth o bob mis. Yn gyffredinol, mae pob panel yn cael ei gynnal rhwng 9.30. – 3.30p.m. Oherwydd gofynion y gwasanaeth, gofynnir am baneli ychwanegol ar adegau. Ar gyfer y paneli ychwanegol, ystyrir model hybrid.
Telir Ffioedd y Panel ar gyfradd fel a ganlyn: Cadeirydd y Panel £400, Is-gadeirydd £200 sy'n cynyddu i £400 yn absenoldeb Cadeirydd y Panel. Aelod annibynnol o'r panel £200. Mae'r gyfradd hon yn cynnwys gwaith paratoi o ddarllen ar gyfer y panel a chostau teithio.
Ni fydd ymgeiswyr sy'n weithwyr Cyngor Powys neu'n ofalwyr maeth cymeradwy gyda Phowys yn cael eu hystyried.
Fel aelod annibynnol o'r Panel, byddwch yn hunangyflogedig ac yn destun rheolau cyflogres CThEM (IR35)
Cadeirydd y Panel Maethu - Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person
penderfynu a yw achos yn ddigonol i'w gyflwyno i’r panel
penderfynu ar bresenoldeb arsylwyr mewn cyfarfodydd panel.
penderfynu ar gyfranogiad aelod o'r panel sy'n datgan budd mewn achos.
penderfynu pryd y gallai fod angen panel ychwanegol.
paratoi adroddiad blynyddol ar waith y panel.
Manyleb y person
Profiad a chymwysterau
Gwybodaeth
Galluoedd
Is-gadeirydd ac Aelod Panel Maethu Annibynnol - Manyleb y person
Yn ogystal â'r Is-gadeirydd, bydd yn ymdrin â rôl cadeirydd y panel pan nad ydynt ar gael i fynychu'r panel maethu, fel y nodir yn swydd ddisgrifiad cadeirydd y panel.
MANYLEB Y PERSON
Anfonwch eich CV ymlaen ynghyd ag enw a manylion canolwr o'ch cyflogaeth/asiantaeth ddiweddaraf at:
Rheolwr y Tîm Maethu – Debra Walker e-bost: debra.walker@powys.gov.uk
Bydd gwiriad datgeliad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael ei wneud ar gyfer y rôl hon.
Dyddiad Cau:
Os yw eich CV yn amlygu bod gennych y profiad a'r sgiliau i ymgymryd â'r rôl hon, cewch eich gwahodd i gyfweliad.