Swyddog Marchnata Rhanbarthol Maethu Cymru – Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rydym yn chwilio am rywun i ymuno â'n tîm rhanbarthol yn llawn amser a pharhaol (37 awr) fel ein swyddog marchnata Rhanbarthol.
Byddech yn gweithio ar brosiectau penodol gan ddefnyddio eich profiad mewn marchnata, gwybodaeth am gynllunio a chyflwyno ymgyrchoedd a phrofiad ar draws y cyfryngau traddodiadol a digidol. Byddwch yn defnyddio sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu gwych i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu strategaethau sy’n gwella recriwtio gofalwyr maeth fel rhan o’r brand cenedlaethol, Maethu Cymru.
Byddwch yn greadigol, yn llawn cymhelliant ac yn drefnus, yn rhywun sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a hyrwyddo arferion gorau.
Mae meddu ar ymagwedd a phatrwm gweithio hyblyg, boed hynny gartref weithiau, yn un o swyddfeydd y tîm maethu neu allan yn cwrdd â phobl wyneb yn wyneb yn y rhanbarth, a dealltwriaeth neu brofiad o weithio yn yr amgylchedd maethu neu’r parodrwydd i ddysgu ac addasu ar gyflymder yn hanfodol.
Gallwch ddysgu mwy am Maethu Cymru yn Maethu yng Nghymru | Maethu Cymru (llyw.cymru)
Nicky Sandford
Rheolwr Datblygu Rhanbarthol / Regional Development Manager
Maethu Cymru/Foster Wales
Ffôn Symudol/Mobile: 07909434211
Cyfeiriad E-bost/e-mail: Nicky.sandford@pembrokeshire.gov.uk
Chwilio am swydd