Ymunwch â'n digwyddiad recriwtio! Gallwch gael gwybod mwy am y swydd wag hon a swyddi tebyg eraill yn ein digwyddiad recriwtio Gwasanaethau Plant ar-lein ar 26 Medi 2024. Ewch i https://cy.powys.gov.uk/gc-digwyddiadau am fanylion.
Mae premiwm ychwanegol yn y farchnad yn berthnasol i Thimau - bydd hyn yn cael ei drafod yn y cyfweliad
Eisiau dysgu mwy am y tîm Gofal a Chymorth? Gwyliwch stori Aimee wrth iddi rannu ei phrofiad fel gweithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso.
Am y rôl:
Mae gwaith y Tîm Gofal a Chymorth yn canolbwyntio ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd lle cafwyd asesiad Gwaith Cymdeithasol a lle nodwyd bod angen gwasanaethau ychwanegol arnynt. Gall hyn fod yn blant sydd angen eu hamddiffyn, angen gofal a chymorth neu deuluoedd yn y broses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO) neu mewn achos llys.
Mae sylfaen sgiliau cymysg o fewn y tîm o Weithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Lles profiadol. O ddydd i ddydd, mae'r tîm yn cael ei gefnogi’n dda gan 2 Gydlynydd Tîm sy'n cynorthwyo gyda nifer o dasgau gan gynnwys, trefnu a chadw cofnodion mewn cyfarfodydd, paratoi cronolegau a chymorth busnes cyffredinol arall.
Fel tîm rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol a dilyniant gyrfa pob aelod o'r tîm. Mae'r Tîm Maethu yn goruchwylio pob agwedd o’r rôl maethu, o recriwtio a chadw gofalwyr maeth prif ffrwd, yn ogystal ag asesu a chefnogi ffrindiau a theulu sy'n maethu. Mae gan weithwyr cymdeithasol sy’n goruchwylio lwythi achos hylaw, maen nhw’n cael cyfnod cynefino trylwyr, yn cael goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd yn ogystal â chymorth a mentora ychwanegol pan fo angen.
Y sgiliau a’r brwdfrydedd angenrheidiol i'r swydd
Beth fydd deilydd y swydd yn ei wneud yn y rôl?:
Darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol i blant a phobl ifanc unigol gyda'r bwriad o'u cadw'n ddiogel a'u galluogi i gyflawni eu potensial llawn mewn lleoliad sy'n darparu sefydlogrwydd cyfreithiol. • Gweithio fel rhan o dîm, gan ymgymryd â thasgau ar sail dyletswydd rota, a darparu gwasanaeth llanw ar gyfer cydweithwyr sy'n absennol. • Meithrin a chynnal cydberthnasoedd gwaith da gyda chydweithwyr a phartneriaid sy'n galluogi'r tîm i weithio'n effeithiol. • Nodi materion risg mewn perthynas ag amgylchiadau plant unigol, a sicrhau bod diogelu ar waith er mwyn lleihau'r risg
Manylion cyswllt ar gyfer trafodaethau am y rôl:
Janette McEwan Rheolwr Tîm neu Juliet Grey Prif Weithiwr Cymdeithasol
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS