Am y rôl: Mae'r Rheolwr Cynhwysiant yn rheoli prosesau statudol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn goruchwylio darpariaeth ar draws ardal ddaearyddol, yn arwain tîm o arbenigwyr, yn cefnogi ysgolion ac yn dirprwyo ar gyfer y Rheolwr Gwasanaeth yn ôl y gofyn. Amdanoch chi: Byddwch yn athro cymwysedig sydd â phrofiad a chymwysterau ychwanegol mewn ADY. Byddwch yn hyblyg ac yn gadarn gyda'r gallu i reoli sefyllfaoedd annisgwyl neu newydd.Eich dyletswyddau: Byddwch yn gweithio gyda'r Rheolwr Gwasanaeth ac un Rheolwr Cynhwysiant arall i weithredu'r holl brosesau statudol a chyflenwi gwasanaethau. Darparu cymorth i ysgolion a lleoliadau eraill i ddarparu addysg a chymorth o ansawdd uchel i ddisgyblion ag ADY. Byddwch hefyd yn rheoli tîm o Arbenigwyr. Am ragor o wybodaeth am y swydd, gallwch gysylltu â: Simon Anderson – Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Cynhwysiant a Gwasanaethau Ieuenctid simon.anderson@powys.gov.uk
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i’r swydd hon