Lleoliad: Canolbarth/Gogledd Powys
Mae dwy swydd ar gael
Am y rôl: Darparu cymorth ac arweiniad i leoliadau Blynyddoedd Cynnar cyn-ysgol, lleoliadau y tu allan i'r ysgol a gwarchodwyr plant. Cynorthwyo yn natblygiad a chynaliadwyedd darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel ym Mhowys. Amdanoch chi: Bydd gennych wybodaeth drylwyr am Safonau Gofynnol Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer Gofal Plant wedi’i Reoleiddio Byddwch yn weithiwr gofal plant cymwys gyda CCPLD Lefel 3 neu gyfwerth Byddwch yn frwd a gyda chymhelliad i ddarparu cymorth effeithiol i'r darparwyr gofal plant ym Mhowys i ysgogi ansawdd, cynaliadwyedd a digonolrwydd. Sgiliau trefnu gwych a'r gallu i ddatblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda darparwyr gofal plant a thimau a gwasanaethau lluosog. Eich dyletswyddau: 1. Cefnogi datblygiad darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel ledled Powys. 2. Modelu rhyngweithiadau ansawdd uchel i oedolion/plant, 3. Cadw bys ar y pyls a gweithio o fewn deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol. 4. Creu cysylltiadau a sefydlu gwaith cydweithredol gyda rhanddeiliaid perthnasol. 5. Cefnogi Ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar mewn lleoliadau i roi sylw i'r Ddeddf ADY newydd. 6. Cefnogi datblygiad darpariaeth gofal plant newydd a chefnogi ymestyniad, cynaliadwyedd a datblygiad parhaus y ddarpariaeth bresennol mewn meysydd lle nodwyd yr angen. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: recruitment@powys.gov.uk
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i’r swydd hon