Lleoliad / Canolfan Waith: Y Trallwng / Y Drenewydd
Am y rôl: Mae'r tîm Cymorth Cynnar yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o'u genedigaeth hyd at 18 oed. Bydd y swydd hon yn cynnwys gwaith gyda phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed gan weithredu dull teulu cyfan. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n gyfannol gyda phobl ifanc a'u teuluoedd er mwyn darparu ystod o gymorth a'u cefnogi i gyflawni eu nodau teuluol. Meithrin perthynas waith gadarnhaol gyda phobl ifanc a'u teuluoedd a gweithio o ymagwedd seiliedig ar hawliau sy'n canolbwyntio ar blant. Bydd Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd Plant a Phobl Ifanc (Cymorth Cynnar) yn helpu i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cyflawni ei rwymedigaethau statudol o dan y ddeddfwriaeth gyfredol a bydd ganddo wybodaeth/ymwybyddiaeth am bolisïau a gweithdrefnau mewn perthynas â diogelu a'r fframwaith statudol yng Nghymru. Pwrpas yr ymyrraeth yw atal cynnydd a theuluoedd rhag cyrraedd argyfwng, a fyddai'n gofyn am ymatebion statudol mwy ffurfiol. Amdanoch chi: meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar gan gynnwys y gallu i gyfathrebu â phlant ifanc a'u teuluoedd a/neu ofalwyr mewn modd priodol Gweithio'n agos at gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau partner, i sefydlu perthnasoedd gwaith rhagorol a diwallu anghenion pobl ifanc a'u teuluoedd. Cofnodi'r gwaith a wneir ar system gofnodi'r Awdurdod Lleol mewn modd amserol ac yn unol â gofynion yr awdurdod lleol. Y gallu i drefnu, blaenoriaethu a rheoli gwaith Y gallu i weithio i gynllun ac o dan gyfarwyddyd agos gweithwyr proffesiynol eraill Y gallu i hwyluso gwaith grŵp Eich dyletswyddau: Bydd y Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd Plant a Phobl Ifanc (Cymorth Cynnar) yn cario baich achosion o blant a phobl ifanc, a byddant yn rheoli eu llwyth gwaith eu hunain. Bydd Gweithiwr Cymorth Cynnar i Deuluoedd Plant a Phobl Ifanc (Cymorth Cynnar) yn sicrhau bod y teulu yn cael Asesiad Cymorth Cynnar a chyfarfodydd Cymorth Cynnar rheolaidd, gyda Chynllun gwaith clir a fydd yn cael ei adolygu ar sail 6 - 8 wythnos. Y Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd Plant a Phobl Ifanc (Cymorth Cynnar) fydd Ymarferydd Arweiniol y teulu, bydd yn cynllunio ac yn cadeirio cyfarfodydd teuluol. Bydd Gweithiwr Cymorth Cynnar i Deuluoedd Plant a Phobl Ifanc (Cymorth Cynnar) yn darparu cymorth a chefnogaeth i sefydlogi a gwella'r trefniadau byw presennol ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc. Darparu ystod o ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella gweithrediad y teulu a gwella profiad byw y plentyn neu'r person ifanc. Gweithio gyda phobl ifanc a'u teuluoedd a/neu ofalwyr sydd â sefyllfaoedd cymhleth, i gynnwys y rhai sydd wedi profi trawma a chamdriniaeth. Cefnogi pobl ifanc a theuluoedd gan ddefnyddio gwybodaeth/ymarfer ar sail trawma i ddatblygu cynllun cymorth. Gwneud gwaith uniongyrchol gyda phobl ifanc a'u teuluoedd neu ofalwyr, drwy ddefnyddio amrywiaeth o fodelau, dulliau ac offer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch: recruitment@powys.gov.uk
Efallai y bydd angen gwiriad Diogelwch Personél Sylfaenol (BPSS) ar gyfer y swydd hon