Lleoliad - Fferm Amelia Trust, Y Barri, CF62 3AS
Prif Bwrpas y Swydd:• Gweithio gyda phlentyn ag awtistiaeth un i un.• Gweithio dan arweiniad staff y lleoliad.• Datblygu, mewn partneriaeth ag arbenigwyr eraill, raglenni sy'n cefnogi dysgu'r plentyn.• Darparu'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol sy'n gysylltiedig â'r plentyn hwnnw.• Bod yn rhagweithiol a gweithio'n effeithiol.• Gallu gweithio'n annibynnol.• Bod yn aelod gweithgar a brwdfrydig o'r tîm o amgylch y plentyn.Prif Gyfrifoldebau:• Gweithredu rhaglenni gwaith y cytunwyd arnynt o dan gyfarwyddyd staff y lleoliad. • Cadw cofnodion gofalus o gynnydd y plentyn a'u rhannu gyda gweithwyr proffesiynol eraill.• Goruchwylio a chefnogi disgybl penodol drwy'r holl weithgareddau yn y lleoliad. • Gweithredu'r holl bolisïau ac arferion yn unol ag ethos y lleoliad, h.y. polisïau Iechyd a Diogelwch sy'n briodol i'r gweithgareddau.• Cefnogi, lle y bo'n briodol, gyda gweithredu agweddau ar y cwricwlwm er budd y plentyn.• Cynnal arsylwadau effeithiol a all helpu i ddatblygu dysgu'r plentyn.• Helpu i greu amgylchedd ysgogol sy'n cefnogi dysgu.
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd