Cynorthwy-ydd Personol ar gyfer Plentyn ag Anableddau i’w gyflogi'n uniongyrchol gan deulu o dan drefniant Taliadau Uniongyrchol.
Rydym yn cefnogi teuluoedd ledled Powys i recriwtio Cynorthwywyr Personol i ddarparu cymorth i'w plant a/neu bobl ifanc ag anableddau.
Bydd y swydd hon o dan drefniant taliadau uniongyrchol, a'ch cyflogwr fydd y teulu (ni fyddech yn cael eich cyflogi'n uniongyrchol gan Gyngor Sir Powys).
Amdanoch chi:
Yn ddelfrydol, byddwch yn meddu ar brofiad o ddarparu cymorth i blant a phobl ifanc, ond nid yw hyn yn hanfodol.
Os gwelir bod anghenion hyfforddiant perthnasol, bydd y teulu sy'n eich cyflogi yn mynd i'r afael â hyn ac yn dod o hyd iddo.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig, yn ofalgar ac yn angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc.
Rhaid i chi feddu ar drwydded yrru lawn y DU a chael mynediad i'ch cerbyd eich hun.
Rhaid i ymgeiswyr fod â’r hawl i weithio yn y DU.
Rhaid i bob ymgeisydd sy'n cael ei gyflogi gan deuluoedd gael gwiriad manylach y DBS newydd a fydd yn cael ei ariannu a'i gynnal gan Dîm Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Cyngor Sir Powys.
Am y rôl:
Bydd y rôl yn cynnig cymorth sesiynol i blant a phobl ifanc ar ddyddiau'r wythnos a/neu ar benwythnosau i'w galluogi i gael mynediad at weithgareddau yn eu cymunedau lleol.
Byddwch yn cael eich cyflogi'n uniongyrchol gan deulu'r plentyn/plant yr ydych yn eu cefnogi. Nid yw Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am gyflogaeth; rydym yn gweithredu fel hysbysebwr ar gyfer CP yn unig.
Sylwch: Nid yw hwn yn gyfle cyflogaeth ar unwaith. Bydd teuluoedd sy'n chwilio am gynorthwyydd personol yn cysylltu â'r Gwasanaethau Anabledd Integredig (GAI) a fydd yn trosglwyddo eich gwybodaeth iddynt. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw gan y Tîm GAI oni bai eich bod yn gofyn i ni ei dileu.
Am ragor o wybodaeth, gallwch cysylltu â'r Cydgysylltwyr Tîm Kielfhinn Barnard neu Fiona Eaton drwy e-bost ids@powys.gov.uk neu ffôn 01597 826604.
-------------------------------------------
Rydym yn helpu teulu i recriwtio Cynorthwy-ydd Personol i ddarparu cefnogaeth i'w plentyn am 4 awr yr wythnos.
Proffil plentyn:
Mae'r plentyn yn fachgen 7 oed sy'n ddi-eiriau ac sydd ag Awtistiaeth ac anableddau cymhleth.
Bydd cymorth yn digwydd yn y cartref ac yn y gymuned.
Byddwch yn cefnogi'r plentyn i fynd allan am dro ac i wneud gweithgareddau yn y cartref.
Mae'n hoff iawn o Peppa Pig ac mae wrth ei fodd â cherddoriaeth a chwarae swnllyd.
Dymunol:
Trwydded yrru lawn y DU a chael mynediad i'ch cerbyd eich hun.
Hanfodol:
Mae angen rhywfaint o brofiad o ymddygiad heriol.
Nid yw profiad mor bwysig ag agwedd ac empathi.
Rhaid i bob ymgeisydd sy'n cael ei gyflogi gan deuluoedd wneud gwiriad manylach y DBS newydd a fydd yn cael ei ariannu a'i gynnal gan Dîm Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Cyngor Sir Powys.
Os dymunwch, rhowch wybod i'r tîm GAI os hoffech i ni gysylltu â chi ar ran teuluoedd eraill sy'n chwilio am gymorth yn y dyfodol. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw gan y Tîm GAI oni bai eich bod yn gofyn i ni ei dileu.
Am ragor o wybodaeth, gallwch cysylltu â'r Cydgysylltwyr Tîm Kielfhinn Barnard neu Fiona Eaton drwy e-bost ids@powys.gov.uk neu ffôn 01597 826604 gan ddyfynnu'r cyfeirnod "454072".
Mae'r plentyn yn fachgen 10 oed sydd ag awtistiaeth ac ADHD.
Bydd cefnogaeth yn digwydd yn y cartref.
Mae ganddo ddiddordeb mewn awyrennau, celf a chrefft ac mae'n hoff iawn o gerddoriaeth, canu a dawnsio. Mae ganddo gof gwych ac mae'n hoffi cael rhyngweithio un-i-un.
Am ragor o wybodaeth, gallwch cysylltu â'r Cydgysylltwyr Tîm Kielfhinn Barnard neu Fiona Eaton drwy e-bost ids@powys.gov.uk neu ffôn 01597 826604 gan ddyfynnu'r cyfeirnod "348650".
Rydym yn helpu teulu i recriwtio Cynorthwy-ydd Personol i ddarparu cefnogaeth i'w plentyn am 2 - 3 awr yr wythnos.
Mae'r plentyn yn ferch 11 oed sy'n ddi-eiriau ac sydd ag Awtistiaeth ac ADHD.
Bydd y cymorth yn cynnwys goruchwyliaeth lawn i fynychu gweithgaredd yn y gymuned a darparu gofal personol pan fo angen.
Mae'r plentyn yn mwynhau nofio a chwarae meddal. Mae hi wrth ei bodd gyda McDonalds a chreision halen a finegr.
Nod yr ymyriad yw helpu’r plentyn i fynychu clwb.
Byddai rhywfaint o brofiad o ymddygiad heriol yn ddymunol
Os gwelir bod anghenion hyfforddiant perthnasol, bydd y teulu yr ydych yn gyflogedig ganddo yn mynd i'r afael â hyn ac yn dod o hyd iddo.
Trwydded yrru lawn y DU a mynediad i'ch cerbyd eich hun.
Am ragor o wybodaeth, gallwch cysylltu â'r Cydgysylltwyr Tîm Kielfhinn Barnard neu Fiona Eaton drwy e-bost ids@powys.gov.uk neu ffôn 01597 826604 gan ddyfynnu'r cyfeirnod "348488".