Am y rôl:Mae cyfle ar gael ar gyfer Swydd Swyddog Cynllun Cysylltu Bywydau Powys yn y Tîm Cyflawni Gofal Cymdeithasol. Mae'r swydd hon yn llawn amser ac yn barhaol. Mae Cysylltu Bywydau yn Wasanaeth Cofrestredig o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Rheoliadau Lleoli Oedolion (2019). Mae'r swydd yn raddfa gyflog 7.Amdanoch chi:• Y gallu i weithio'n effeithiol yn ôl eich cymhelliant eich hun yn ogystal â fel rhan o dîm• Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn ysgrifenedig/ar lafar ac yn fedrus mewn systemau TG• Y gallu i reoli, a blaenoriaethu llwyth gwaith a gweithio o safbwynt rhagweithiol• Dealltwriaeth o fframweithiau deddfwriaethol a pholisi fel Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Rheoliadau Lleoli Oedolion (2019)Eich dyletswyddau:• Recriwtio, asesu, hyfforddi, cefnogi a monitro Gofalwyr Cysylltu Bywydau gan ddarparu cymorth a llety yn eu cartrefi eu hunain, yn y tymor hir neu'r tymor byr, i oedolion sydd angen cymorth ym Mhowys. • Paru Gofalwyr Cysylltu Bywydau â darpar ddefnyddwyr gwasanaeth a hwyluso cyflwyniadau rhwng pob parti a monitro trefniadau i sicrhau boddhad pob parti.• Gweithio o fewn polisïau a gweithdrefnau'r Cyngor a'r gwasanaeth, a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a Chanllawiau Statudol Gwasanaethau Lleoli Oedolion.• Asesu Gofalwyr Cysylltu Bywydau posibl, llunio adroddiadau asesu a'u cyflwyno i'r panel cymeradwyo.• Cyfrannu at nodi canlyniadau, cryfderau a chapasiti defnyddwyr gwasanaeth. Llunio cynllun priodol yn nodi sut y bydd y canlyniadau hynny'n cael eu cyflawni a pha gymorth sydd ei angen. • Bod yn gyfrifol am lwyth achosion dynodedig o Ofalwyr Cysylltu Bywydau a threfniadauAm ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â recruitment@powys.gov.uk
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS