Am y rôl: Cynorthwyo neu alluogi unigolion i barhau i fyw yn y gymuned, gwella ansawdd eu bywydau a'u cefnogi a'u cynnal yn ddiogel yn eu hamgylchedd eu hunain. Cefnogi gweithwyr gofal cartref a gweithwyr cymorth ailalluogi yn eu tîm drwy fod yn hyblyg ac yn weithgar yn yr ardaloedd lleol, goruchwylio ac arsylwi ar staff, a chwblhau asesiadau risg a gwaith papur sicrhau ansawdd i fod yn hyderus yn lefel y gofal a'r cymorth a ddarperir i bobl Powys. Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau cymeradwy Cyngor Sir Powys Amdanoch chi: Mae'r gallu i gyfathrebu â'r cyhoedd a chyrff proffesiynol eraill sydd â natur garedig a chydymdeimladol o'r pwys mwyaf. Y gallu i ysgogi tîm o Weithwyr Cymorth Gofal Cartref ac Ailalluogi yn eu hardal benodol. Y gallu i weithio fel rhan o dîm Y gallu i weithio'n annibynnol yn adrodd i'r rheolwr llinell am unrhyw risgiau a nodwyd Sgiliau trefnu a gweinyddol da. Y gallu i asesu staff, mewn perthynas â meysydd risg, paru staff â sefyllfaoedd, rheoli gwrthdaro Datrys problemau a'r gallu i ymateb yn gadarnhaol i bwysau Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Sylvia Adams - sylvia.adams@powys.gov.uk
Mae gofyn bod â Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y swydd yma