Am y rôl:Asesu a rheoli anghenion cymhleth pobl hŷn a'u gofalwyr, gan sicrhau eu hiechyd, eu lles a'u cynhwysiant cymdeithasol. Mae'r rôl yn cynnwys diogelu, hyrwyddo annibyniaeth, a chydweithio â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill.Amdanoch chi:Sgiliau cyfathrebu a TG cryf. Y gallu i reoli llwythi achosion a gweithio dan bwysau. Datrys gwrthdaro a rheoli argyfyngau. Ymrwymiad i gydraddoldeb, cyfrinachedd a safonau proffesiynol.Yr hyn y byddwch yn ei wneud: Cynnal asesiadau cyfannol a chynllunio gofal. Rheoli llwyth achosion bach ond cymhleth. Cynnal ymchwiliadau diogelu a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol. Cydweithio â gwasanaeth Ailalluogi a gwasanaethau eraill. Cynnal asesiadau o'r Ddeddf Galluedd Meddyliol a phenderfyniadau er Lles Pennaf. Paratoi adroddiadau llys ac adroddiadau arbenigol. Cadw cofnodion a dogfennaeth gywir. Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chymryd risgiau cadarnhaol. Mentora ymarferwyr sydd newydd gymhwyso. Cymryd rhan mewn goruchwyliaeth a datblygiad proffesiynol parhaus. Cyfrannu at ddatblygiad y gwasanaeth a dysgu tîm. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Natalie Evans, Rheolwr Tîm - Hŷn (Gogledd) am fwy o fanylion - natalie.evans@powys.gov.uk 01686 617575
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS