1. Asesu a rheoli anghenion cymhleth pobl â phroblemau iechyd meddwl a’u gofalwyr i sicrhau eu hiechyd a’u lles a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol.2. Cysylltu â gweithwyr proffesiynol i sicrhau llwybrau gofal di-fwlch sy’n diogelu ac yn hyrwyddo annibyniaeth.3. Hyrwyddo gweithio ar y cyd sy’n cefnogi canlyniadau sy’n canolbwyntio ar unigolion ac sy’n cael eu darparu i bobl â phroblemau iechyd meddwl. 4. Cynnal archwiliadau diogelu yn ôl y gofyn.5. Mae Awdurdodau Lleol yn ateb eu goblygiadau statudol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014 a Chyfraith Iechyd Meddwl.6. Ymgymryd â rôl AMHP i sicrhau bod gofynion statudol Awdurdodau Lleol yn cael eu cyflawni o fewn Deddf Iechyd Meddwl 1983.7. Sicrhau bod anghenion pobl ag anawsterau iechyd meddwl, a’u gofalwyr, yn cael eu hasesu’n gyfannol, bod cymorth yn cael ei drafod, ei fonitro a’i adolygu o fewn y chwech wythnos cyntaf8. Cynnal y llwyth achosion sydd wedi’i ddyrannu i chi.9. Asesu risgiau i bobl â phroblemau iechyd meddwl ac eraill mewn modd sy’n hybu annibyniaeth defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr wrth sicrhau bod y dulliau diogelu angenrheidiol ar waith.10. Llunio argymhellion ynghylch dyrannu adnoddau prin. 11.Sicrhau bod cyfle cyfartal a pharch at amrywiaeth a gwahaniaeth yn cael eu hyrwyddo. 12.Sicrhau bod cynhwysiant cymdeithasol pobl arunig a hawdd eu niweidio yn cael ei hyrwyddo.13.Ymchwilio i achosion o gam-drin oedolion hawdd eu niweidio14.Gweithio ar y cyd ag asiantaethau eraill. 15.Bod yn atebol am gamau gweithredu trwy gofnodi penderfyniadau’n effeithiol ac yn fanwl gywir yn unol â pholisïau a deddfwriaeth.16. Diogelu lles unigolyn hawdd ei niweidio sydd â risg o gael ei niweidio yn fuan.17. Mynd ati i weithio’n uniongyrchol gyda phobl â phroblemau iechyd meddwl a’u gofalwyr i gynnal asesiadau o bobl ag anawsterau iechyd meddwl.18.Wrth weithio gyda phobl â phroblemau iechyd meddwl a’u gofalwyr, mae gweithwyr cymdeithasol yn ceisio gwella’u gallu i ddatrys problemau mewn modd sy’n eu cynorthwyo i gael cymaint o annibyniaeth a dewis â phosibl.19.Ystyried, ar y cyd â phobl â phroblemau iechyd meddwl a’u gofalwyr, y dewisiadau sydd ar gael, er mwyn diwallu eu hanghenion asesedig cymaint â phosibl a chynorthwyo i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.20.Ymgymryd â rôl AMHP
Bydd angen Gwiriad Manylach y DBS i’r swydd hon