Rydym wedi estyn y dyddiad cau tan 08/10/2024
Am y rôl:Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwylio Gofalwr Cysylltiedig yng nghyngor Powys, sydd wedi’i leoli yn ne’r sir. Ry’n ni’n dîm o staff sydd wedi’u sefydlu’n dda, cefnogol, sefydlog, sy’n gweithio gyda Gofalwyr Teulu a Ffrindiau, sydd wedi ymrwymo i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’n plant a’n pobl ifanc. Ry’n ni’n chwilio am gyfranogwr gweithgar, sydd am gyfrannu at newid cadarnhaol o fewn y sefydliad wrth gael y cyfle i ddatblygu gyrfa o fewn y gwasanaeth. Mae pwyslais mawr ar ddysgu a datblygu ag ystod o gyfleoedd hyfforddi ar gael.Mae’r Tîm Gofalwyr Cysylltiedig yn asesu ac yn rhoi cymorth i ffrindiau a theulu sy’n maethu. Mae gan weithwyr cymdeithasol sy'n goruchwylio llwythi achosion y gellir eu rheoli, maent yn cael eu sefydlu'n gadarn, yn cael goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd yn ogystal â chymorth a mentora ychwanegol pan fo angen.Amdanoch chi:• Profiad ôl-gymhwysol mewn rôl gweithiwr cymdeithasol cysylltiedig â maethu neu brofiad ôl-gymhwysol mewn lleoliad gofal plant arall megis tîm plant sy'n derbyn gofal.• Dylai fod gennych wybodaeth a dealltwriaeth o anghenion a phrofiadau plant nad ydynt yn gallu byw gyda'u rhieni yn ogystal â sgiliau a gwybodaeth mewn deinameg teuluol cymhleth a chymorth.• Y gallu i gefnogi ein gofalwyr maeth a'u teuluoedd i gyflawni'r canlyniadau gorau i'r plant yn eu gofal.• Gwybodaeth gyfredol o ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Rheoliadau Maethu.Eich dyletswyddau:• Goruchwylio gofalwyr maeth, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi'n dda â chyngor ac arweiniad priodol i'w galluogi i barhau i ddarparu amgylchedd diogel, iach, meithringar a dysgu ar gyfer plant/pobl ifanc y maent yn gofalu amdanynt.• Bod yn rhan o'n proses recriwtio, trwy gynnal ymweliadau cartref cychwynnol achlysurol â darpar ofalwyr maeth.• Cyfleoedd i gymryd rhan mewn hyfforddiant gofalwyr maeth, megis hyfforddiant cyn cymeradwyo Sgiliau i Faethu • Cynnal asesiadau maethu ac Asesiadau Cyfeillion a Theulu ambell waith. Ry’n ni am sicrhau bod y canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc yn cael eu cyflawni drwy gwblhau asesiadau o ansawdd uchel.• Cefnogi'r swyddogion recriwtio trwy gymryd rhan ambell waith mewn recriwtio gofalwyr maeth. Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â:Julie Waldron-Dorrell
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS