Am y rôl: Mae gwaith y Tîm Gofal a Chymorth yn canolbwyntio ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd lle bu asesiad Gwaith Cymdeithasol a lle nodwyd bod angen gwasanaethau y chwanegol arnynt. Gall hyn fod yn blant sydd angen eu hamddiffyn, ac angen gofal a chymorth neu deuluoedd yn y broses Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO) neu mewn achosion llys. Mae sylfaen sgiliau cymysg o fewn y tîm o Weithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Lles profiadol. O ddydd i ddydd, mae'r tîm yn cael cefnogaeth dda gan ddau Gydgysylltydd Tîm sy'n cynorthwyo gyda nifer o dasgau, gan gynnwys trefnu a chreu cofnodion o gyfarfodydd, paratoi cronolegau a chymorth busnes cyffredinol arall. Fel tîm rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygu proffesiynol a dilyniant gyrfa pob aelod o'r tîm sydd ar gael. Mae'r Tîm Maethu yn goruchwylio pob agwedd ar y rôl maethu o recriwtio a chadw gofalwyr maeth prif ffrwd, yn ogystal ag asesiad a chefnogaeth ffrindiau a theulu sy'n maethu. Mae gan weithwyr cymdeithasol goruchwyliol lwythi achos y gellir eu rheoli, maent yn cael cyfnod sefydlu cadarn, goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd yn ogystal â chymorth a mentora ychwanegol pan fo angen. Amdanoch chi: Byddwch yn gallu darparu cefnogaeth briodol i blant a theuluoedd, gan ddefnyddio eich brwdfrydedd a'ch cymhelliant i hyrwyddo canlyniadau llwyddiannus. • Byddwch yn fedrus ac yn hyderus wrth gyfathrebu ag eraill er mwyn cynnal ymgysylltiad â theuluoedd mewn amgylchiadau newidiol, gan gynnwys lle mae gelyniaeth a risg. • Byddwch yn greadigol yn eich gwaith gyda phlant ac yn mabwysiadu'r defnydd o arfau i'w hannog i rannu eu dymuniadau a'u teimladau. • Bydd angen ystod eang o wybodaeth a sgiliau arnoch i nodi'r ystod lawn o risgiau i blant a helpu i reoli'r risgiau hynny; sicrhau y darperir ymyrraeth gymesur ac amserol. Helpu i adeiladu perthnasoedd teuluol ac adnabod rhwydweithiau cefnogi unigolion. • Bydd angen i chi fabwysiadu model ymyrraeth sy'n seiliedig ar gryfderau a byddai profiad o ddefnyddio'r model hwn yn ddymunol. Eich dyletswyddau: Darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol i blant a phobl ifanc unigol gyda'r bwriad o'u cadw'n ddiogel a'u galluogi i gyflawni eu potensial llawn o fewn lleoliad sy'n darparu sefydlogrwydd cyfreithiol. • Gweithio fel rhan o dîm, gan gyflawni tasgau ar sail dyletswydd rota, a darparu gwasanaeth llanw ar gyfer cydweithwyr sy'n absennol. • Meithrin a chynnal perthnasoedd gwaith da gyda chydweithwyr a phartneriaid sy'n galluogi'r tîm i weithio'n effeithiol. • Nodi materion risg mewn perthynas ag amgylchiadau plant unigol, a sicrhau bod yna diogelu ar waith er mwyn lleihau'r risg Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â Bernie O’Bien recruitment@powys.gov.uk
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS