Mae cyfle cyffrous wedi codi am swydd Swyddog Cymorth Cymunedol Adolygu llawn amser parhaol yn Nhimau Pobl Hŷn y Canol. Mae'r Tîm Pobl Hŷn yn gweithio gyda phobl dros 65 oed a'u gofalwyr, gan ddefnyddio model ymarfer Cydweithredol sy’n seiliedig ar Gryfderau ac sy'n canolbwyntio ar Ganlyniadau. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein timau a hwyluso cyfleoedd goruchwylio a dysgu o ansawdd da. Yr ardaloedd y mae'r tîm Canol yn eu gwasanaethu yw ardal Trefyclo a Llanandras, ardal Llandrindod a Rhaeadr Gwy, ac ardal Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd. Mae hwn yn gyfle delfrydol i unigolion ennill profiad o weithio ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Darperir sesiwn sefydlu, a chefnogir cyfleoedd hyfforddi. Y dyddiad cau yw 26 Medi 2025. Cynhelir cyfweliadau yn yr wythnos sy'n dechrau ar 29 Medi 2025. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drefnu trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Natalie Evason drwy e-bost neu dros y ffôn. Natalie.evason@powys.gov.uk (01874) 612196
Bydd angen Gwiriad Manylach y DBS i’r swydd hon