Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys: 1. I fod yn rhan o dîm adolygu a fydd yn sicrhau bod anghenion asesedig pobl hŷn yn cael eu diwallu drwy’r broses adolygu. 2. Gweithio’n agos â’r tîm ail-alluogi o ran asesu ac adolygu parhaus. 3. Comisiynu gofal tymor hir o ganlyniad i’r adolygiad. 4. Bod Awdurdodau Lleol yn cyflawni eu goblygiadau statudol dan ddeddfwriaethau Plant a Theuluoedd, Cyfraith Iechyd Meddwl a Deddf GIG a Gofal yn y Gymuned ac eraill. 5. Bod anghenion pobl hŷn, unigolion a’u gofalwyr yn cael eu hadolygu’n gyfannol, a thrafod, monitro ac adolygu pecynnau gofal. 6. Asesu a chydbwyso risgiau i bobl hŷn ac eraill mewn ffordd sy’n hybu annibyniaeth pobl hŷn a’u gofalwyr. 7. Gwneud argymhellion wrth ddyrannu adnoddau prin. 8. Hybu cyfle cyfartal a pharch at amrywiaeth a gwahaniaeth. 9. Hybu cynhwysiant cymdeithasol ymhlith pobl ynysig, sy’n agored i niwed. 10. Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau diogelu. 11. Dyletswydd i adrodd a rhoi gwybod i reolwyr am unrhyw bryderon. Cydweithio ag asiantaethau eraill er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i bobl hŷn. 12. Bod yn atebol am eu gweithredoedd drwy gofnodi penderfyniadau / argymhellion yn effeithiol a chywir. 13. Rhoi blaenoriaeth i waith adolygu a’u llwyth gwaith ochr yn ochr ag uwch ymarferydd. 14. Gweithio’n uniongyrchol â phobl hŷn a’u gofalwyr i gynnal adolygiadau a all arwain at ail-asesu. 15. Wrth weithio â phobl hŷn a’u gofalwyr, byddwch yn ceisio gwella eich gallu i ddatrys problemau er mwyn sicrhau annibyniaeth a dewis. 16. Adolygiadau sy’n rhoi’r unigolyn yn gyntaf a chynllunio gofal sy’n seiliedig ar ganlyniadau. 17. Ceisio gwneud yn fawr o’r adnoddau ariannol a materol sydd ar gael i bobl hŷn o bob ffynhonnell bosibl. 18. Cofnodi anghenion sydd heb eu diwallu. 19. Casglu canfyddiadau’r adolygiad/ailasesiad a llenwi dogfennau yn unol â chanllawiau statudol, deddfwriaethau a gweithdrefnau ac amserlenni’r adran. 20. Sicrhau bod cofnodion y ffeil achos yn gyflawn yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r adran. 21. Cyfathrebu’n fewnol/allanol â phobl hŷn, gofalwyr a swyddogion proffesiynol eraill, rhoi cyngor, datblygu cysylltiadau a defnyddio sgiliau datrys gwrthdaro ac eiriolaeth. 22. Galw a/neu mynychu cyfarfodydd rhyng-asiantaethau e.e. cynadleddau achos. 23. Cael cytundeb y rheolwyr i’r cynllun gofal/cymorth. 24. Rhannu dogfennau’r adolygiad a’r cynllun gofal yn unol ag anghenion statudol, deddfwriaethau a gweithdrefnau’r adran. 25. Sicrhau bod cofnodion electronig yn gyflawn a/neu’n cael eu diweddaru yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r adran. 26. Yn ogystal â rheoli gofal ar sail unigol, chwarae rôl bwysig wrth lunio gwasanaethau’n uniongyrchol ac anuniongyrchol. 27. Sicrhau bod pobl hŷn yn ymwybodol o’r trefniadau cwyno a gwasanaethau eiriolaeth. 28. Paratoi a chymryd rhan mewn sesiynau goruchwylio gyda’r Rheolwr Llinell.
Bydd angen Gwiriad Manylach y DBS i’r swydd hon.