Lleoliad/Canolfan Waith: Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, Five Mile Lane, Y Barri, CF62 3AS
Prif Bwrpas y Swydd: • Gweithio gyda phlentyn ag awtistiaeth un i un. • Gweithio dan arweiniad staff y lleoliad. • Datblygu, mewn partneriaeth ag arbenigwyr eraill, raglenni sy'n cefnogi dysgu'r plentyn. • Cyflwyno'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol briodol sy'n gysylltiedig â'r plentyn hwnnw. • Bod yn rhagweithiol a gweithio'n effeithiol. • Gallu gweithio'n annibynnol. • Bod yn aelod gweithredol a brwdfrydig o'r tîm o amgylch y plentyn. Prif Gyfrifoldebau: • Gweithredu rhaglenni gwaith y cytunwyd arnynt o dan gyfarwyddyd staff y lleoliad. • Cadw cofnodion gofalus o gynnydd y plentyn a'u rhannu gyda gweithwyr proffesiynol eraill. • Goruchwylio a chefnogi disgybl penodol drwy'r holl weithgareddau yn y lleoliad. • Gweithredu'r holl bolisïau ac arferion yn unol ag ethos y lleoliad, h.y. polisïau Iechyd a Diogelwch sy'n briodol i'r gweithgareddau. • Cefnogi, lle bo'n briodol, wrth roi agweddau ar y cwricwlwm ar waith er budd y plentyn. • Cynnal arsylwadau effeithiol a all helpu i ddatblygu dysgu'r plentyn. • Helpu i greu amgylchedd ysgogol sy'n cefnogi dysgu.
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manylach