Am y rôl:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymdeithasol Goruchwylio yng nghyngor Powys. Mae’r swydd oddi fewn i'r Tîm Gofalwyr Cysylltiedig, ac yn rhan o dîm staff sefydlog, cefnogol, sydd wedi hen ennill ei blwyf. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n plant a'n pobl ifanc. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â'n tîm ac rydym yn awyddus i glywed gennych os hoffech gyfrannu at newid cadarnhaol yn y sefydliad tra'n cael cyfle i ddatblygu gyrfa. Rydym yn ymfalchïo yn ein brwdfrydedd dros ddysgu a datblygu ac mae gennym ystod eang o gyfleoedd hyfforddi.
Mae'r Tîm Gofalwyr Cysylltiedig yn ymgymryd ag asesu a chefnogi ffrindiau a theulu sy'n maethu. Mae gan weithwyr cymdeithasol goruchwylio lwyth gwaith y gellir ei reoli, ac maen nhw’n derbyn hyfforddiant sefydlu trylwyr, yn derbyn goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd yn ogystal â chymorth a mentora ychwanegol pan fo angen. Mae'r tîm gofalwyr cysylltiedig yn gweithio'n agos at y timau eraill o fewn y gwasanaeth maethu, ac mae’n bosibl y bydd hyblygrwydd wrth gwblhau gwaith asesu o fewn y tîm maethu a gwarchodaeth arbennig cyffredinol.
Amdanoch chi:
Eich dyletswyddau:
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â
Delyth Berni email: delyth.berni@powys.gov.uk
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.