Cynorthwy-ydd Personol i Blant ag Anableddau sy’n cael ei gyflogi'n uniongyrchol gan deuluoedd o dan drefniant Taliadau Uniongyrchol.
Rydym yn cefnogi teuluoedd ledled Powys i recriwtio Cynorthwywyr Personol i ddarparu cymorth i'w plant a/neu bobl ifanc ag anableddau.
Bydd y swydd hon o dan drefniant taliadau uniongyrchol, a'ch cyflogwr fydd y teulu (ni fyddech yn cael eich cyflogi'n uniongyrchol gan Gyngor Sir Powys).
Amdanoch chi:
Yn ddelfrydol, byddwch gennych brofiad o ddarparu cymorth i blant a phobl ifanc, ond nid yw hyn yn hanfodol.
Os gaiff anghenion hyfforddi perthnasol eu dynodi, bydd y teulu yr ydych yn gyflogedig ganddo yn mynd i'r afael â hyn ac yn dod o hyd iddo.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig, yn ofalgar ac yn angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc.
Rhaid i chi feddu ar drwydded yrru lawn yn y DU a chael mynediad i'ch cerbyd eich hun.
Rhaid bod gan ymgeiswyr yr hawl i weithio yn y DU.
Rhaid i bob ymgeisydd sy'n cael ei gyflogi gan deuluoedd wneud gwiriad DBS manylach newydd a fydd yn cael ei ariannu a'i gynnal gan Dîm Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Cyngor Sir Powys.
Am y rôl:
Bydd y rôl yn cynnig cymorth sesiynol i blant a phobl ifanc ar ddyddiau'r wythnos a/neu ar benwythnosau i'w galluogi i gael mynediad at weithgareddau yn eu cymunedau lleol.
Byddwch yn cael eich cyflogi'n uniongyrchol gan deulu'r plentyn/plant yr ydych yn eu cefnogi. Nid yw Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am y gyflogaeth; rydym yn gweithredu fel hysbysebwr ar gyfer Cynorthwywyr Personol yn unig.
Noder: Nid yw hwn yn gyfle cyflogaeth ar unwaith. Bydd teuluoedd sy'n chwilio am gynorthwyydd personol yn cysylltu â'r Gwasanaethau Anabledd Integredig a fydd yn trosglwyddo eich gwybodaeth iddynt. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw gan y Tîm GAI oni bai eich bod yn gofyn i ni ei dileu.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Cydgysylltwyr Tîm Kielfhinn Barnard neu Fiona Eaton drwy e-bost ids@powys.gov.uk neu ffôn 01597 826604.
Gwasanaeth: Gwasanaethau Plant
Cyflog: £9.50 - £11.50 yr awr