Am y rôl:Fel aelod o Dîm Cyfiawnder Ataliol ac Adferol (y Tîm), byddwch chi’n chware rôl hanfodol wrth asesu, rheoli a darparu ymyraethau wedi eu hanelu at atal troseddu ymhlith plant a phobl ifanc. Mae’r rôl hon yn galw am ymrwymiad cryf at egwyddorion cyfiawnder adferol, rheoli achosion yn effeithiol, a’r gallu i gynllunio a gweithredu ymyraethau wedi eu teilwra. Wrth ymuno â’r Tîm, byddwch chi’n cael y cyfle i wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau plant a phobl ifanc a’u helpu i oresgyn heriau ac adeiladu dyfodol mwy disglair.Amdanoch chi:Profiad blaenorol mewn cyfiawnder ieuenctid, neu faes perthnasol sy’n ymwneud â gweithio â ieuenctid mewn risg/ perygl. Deall egwyddorion cyfiawnder adferol, troseddau ieuenctid a’r system cyfiawnder troseddol. Sgiliau cryf o ran asesu, rheoli achos a darparu ymyrraeth. Gallu ardderchog wrth gyfathrebu ac yn rhyngbersonol. Empathi, amynedd, gwytnwch ac ymrwymiad i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc. Eich dyletswyddau:Arwain asesiadau i werthuso anghenion, risgiau a ffactorau diogelu plant a phobl ifanc. Gweithio’n agos at deuluoedd, ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, ac asiantaethau eraill i sicrhau ymagwedd holistig at asesiadau. Creu cynlluniau ymyrraeth wedi eu personoli yn seiliedig ar ddeilliannau a mynd i’r afael ag anghenion penodol i leihau ymddygiad o droseddu. Datblygu a gweithredu ymyraethau wedi eu teilwra at anghenion unigryw ac amgylchiadau pob person ifanc. Rheoli llwyth achos plant a phobl ifanc, gan sicrhau ymyrraeth amserol ac effeithiol tra bo cofnodion cywir yn cael eu cynnal a’u cadw. Arwain sesiynau un i un gyda phlant a phobl ifanc i fynd i’r afael â materion penodol a chefnogi eu datblygiad. Cynrychioli diddordebau ac anghenion plant a phobl ifanc mewn cyfarfodydd amlasiantaethol.Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â:Heidi Argentheidi.argent@powys.gov.uk
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i’r swydd hon