Am y rôl:Darparu cefnogaeth ddyddiol i ddefnyddwyr gwasanaeth o fewn gwasanaethau dydd i bobl ag anableddau dysgu; gweithredu o ganolfannau gwasanaeth dydd ac yn y gymuned yn unol â manyleb y gwasanaeth a gweithio o dan gyfarwyddyd y Rheolwr Gwasanaethau Cymorth Dydd (ADSM) a'r Rheolwr Gweithgareddau Dydd (DAM).Amdanoch chi: • Agwedd gadarnhaol tuag at gefnogi pobl ag anableddau dysgu i fodloni eu dyheadau a'u hanghenion.• Agwedd gadarnhaol tuag at weithio fel rhan o dîm.• Y gallu i gydnabod eich cryfderau a’ch anghenion eich hun• Wedi ymrwymo i ddatblygu arferion a gwasanaethau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb ac yn parchu Amrywiaeth. Beth fyddwch yn ei wneud: • Gweithio o dan gyfarwyddyd y Rheolwr Gwasanaethau Cymorth Dydd a'r Rheolwr Gweithgareddau Dydd.• Darparu cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth wrth weithredu cynlluniau gofal unigol a rhaglenni gwasanaeth dydd.• Cadw dogfennaeth gywir yn ôl yr angen.• Rhoi meddyginiaeth ragnodedig i ddefnyddwyr gwasanaeth yn unol â Pholisïau a Gweithdrefnau Meddyginiaeth y Gwasanaethau Dydd a sicrhau y dogfennir meddyginiaeth yn gywir.• Cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm goruchwyliaeth a gweithwyr cymorth.• Cyflawni QCF Lefel II mewn Gofal a hyfforddiant gorfodol arall yn ôl yr angen.• Cynorthwyo i gludo defnyddwyr gwasanaeth yn ôl yr angen.Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â Claire Karp Rheolwr Gweithgareddau Dydd ledled y Sirclaire.karp@powys.gov.uk
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS