Am y rôl:Swydd Gweithiwr Cymorth wrth gefn gydag oriau yn ôl yr angen yw hon Gweithio i rota treigl chwe wythnos sy’n gyfnewidiol er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.•Mae gofyniad i weithio shifftiau dydd a gyda'r nos, hefyd ar benwythnosau a Gwyliau Banc. Byddwch yn cefnogi Oedolion sydd ag Anabledd Dysgu i reoli eu cartref eu hunain yn unol â’r prif gyfrifoldebau a nodir yn y Swydd ddisgrifiad.Amdanoch chi:• Rydym yn chwilio am rywun sydd ag agwedd gadarnhaol ac angerdd dros weithio gyda phobl sydd ag anabledd Dysgu.• Gallu darparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gyda ffocws cryf ar ganlyniadau cadarnhaol a chynnydd yn llesiant pobl.• Agwedd gymdeithasgar a chyfeillgar gyda meddylfryd cadarnhaol ac awydd i gwrdd â holl heriau ac elfennau gofynnol y rôl.• Gallu meddwl y tu allan i'r bocs a dod o hyd i atebion creadigol.• Cofleidio a chyflawni'r gwerthoedd corfforaethol bob amser ym mhopeth a wnawn, sef.• Proffesiynol, Cadarnhaol, Blaengar, Agored, Cydweithredol, Meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth am sut i drin pobl ag anableddau dysgu fel unigolion gwerthfawr sy'n meddu ar werth ac urddas, gyda hawliau cyfartal i le llawn mewn cymdeithas ac annog eraill i wneud hynny.Eich dyletswyddau:• Cefnogi pobl ag anableddau Dysgu i ddatblygu eu sgiliau a'u hannibyniaeth drwy arddangos a modelu gweithgareddau.• Gweithio ochr yn ochr â thîm staff ymroddedig a gweithwyr proffesiynol eraill yng nghartref y defnyddwyr gwasanaeth a lleoliadau gofynnol eraill.• Ymgymryd â thasgau ymarferol a chefnogi pobl gyda'u gofal personol, gweithgareddau domestig ac yn gymdeithasol yn y gymuned.• Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i adeiladu a chynnal cysylltiadau teulu a chyfeillion a chyrraedd nodau a chyflawni canlyniadau personol.• Cymryd rhan adeiladol mewn sesiynau goruchwylio ac arfarnu staff rheolaidd.• Cyfrannu at asesiadau ysgrifenedig a Chynlluniau Gofal a mynychu cyfarfodydd Cynllunio Gofal gan lunio a chadw cofnodion ac adroddiadau manwl.• Cymryd rhan/mynychu hyfforddiant gofynnol i ddatblygu, tyfu ac ennill sgiliau i wella'r rôl.Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â Helen Kelleher Cyngor Sir PowysFfon: 01686-627021 / 07748180629Ebost: [email protected]
Mae'r swydd hon yn gofyn am Wiriad DBS Manylach