Mae Powys yn recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol Annibynnol brwdfrydig, medrus sy’n gallu cynhyrchu asesiadau maethu yn seiliedig ar dystiolaeth ac o ansawdd uchel o rieni maeth arfaethedig a phersonau cysylltiedig. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o fod wedi cwblhau asesiadau, fodd bynnag, rydym ni hefyd yn croesawu ceisiadau oddi wrth weithwyr proffesiynol sydd â sgiliau asesu cadarn a chefndir cryf mewn diogelu. Rydym ni’n cynnig cyfradd sy’n gystadleuol â’r farchnad sef £2500 am bob asesiad, a chostau teithio sef 45c y filltir. I gymhwyso, rhaid i chi fodloni’r meini prawf canlynol:
-Meddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol.
-Meddu ar ôl-gymhwyster sylweddol o ymgymryd â gwaith asesu, Yn ddelfrydol, byddwch chi wedi cwblhau o leiaf un asesiad Ffurflen F neu Asesiad Teulu a Ffrindiau, ond nid yw hyn yn hanfodol.
-Wedi cofrestru’n broffesiynol â Gofal Cymdeithasol Cymru
- Gwybodaeth gref am ddeddfwriaeth gofal plant
-Meddu ar neu’n barod i drefnu yswiriant indemniad proffesiynol
-Trwydded yrru a’ch trafnidiaeth eich hun a pharodrwydd i deithio
-Parodrwydd i weithio ar sail hyblyg, e.e. gyda’r nos a phenwythnosau.
-Pasio gwiriadau statudol a’r cwmni fel rhan o’r broses asesu. Os oes diddordeb gennych yna gallwch weld y swydd ddisgrifiad llawn yma.Os ydych am unrhyw wybodaeth bellach cysylltwch â Debra Walker, Rheolwr Maethu [email protected]