Am y rôl:
Darparu gwasanaeth Seicoleg Addysgol cynhwysfawr, sy'n canolbwyntio ar y person ac ar ganlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed ac i glystyrau cytunedig o leoliadau Blynyddoedd Cynnar, ysgolion a theuluoedd.
Amdanoch chi:
Bydd gennych gymhwyster ôl-raddedig mewn Seicoleg Addysg ac mae gennych brofiad fel Seicolegydd Addysg sy'n ymarfer. Byddwch yn gallu gweithio'n dda fel rhan o dîm ond hefyd yn annibynnol.
Eich dyletswyddau:
Gweithio gyda lleoliadau, ysgolion, colegau ac asiantaethau eraill i ddarparu gwasanaeth seicoleg addysg i blant, pobl ifanc a staff. Bydd hyn yn cynnwys, yn ôl yr angen, gwaith uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd, darparu cyngor, ymgynghori, a chefnogaeth wrth gymhwyso seicoleg yn gyffredinol i arferion a systemau da sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â: Dewi Hughes – Prif Seicolegydd Addysg dewi.hughes@powys.gov.uk
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i’r swydd hon