Ydych chi'n chwilio am rôl newydd ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc lleol?
Drwy ddod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Powys byddwch yn ymuno â thîm brwdfrydig a chefnogol sy'n gweithio gyda'i gilydd i alluogi pobl ifanc i aros yn eu cymunedau.
Mae angen gofalwyr sy'n fodlon croesawu plant 0-18 oed i ddarparu gofal amser llawn, seibiannau byr neu ofal brys yn ogystal â gofalwyr sy'n dymuno cefnogi pobl ifanc ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches.
Felly, p'un a ydych yn dymuno gwneud ymrwymiad llawn amser neu ran amser, mae rôl faethu ar eich cyfer. Bydd angen i chi gael ystafell wely sbâr, amser, egni a hyblygrwydd i ddarparu gofal cyson i bobl ifanc.
Rhoddir lwfans wythnosol hael yn ogystal â chymorth 24/7 cynhwysfawr a phecyn hyfforddiant .
I gael mwy o wybodaeth am faethu ar gyfer Powys cysylltwch â'r tîm Maethu ar 0800 22 30 627 neu e-bostiwch [email protected]