Am y rôl: Byddwch yn cefnogi Oedolion sydd ag Anabledd Dysgu i reoli eu cartref eu hunain o ran y prif gyfrifoldebau a nodir yn y Swydd ddisgrifiad. Byddwch yn gweithio i rota chwe wythnosol yn amodol ar newid i ddiwallu anghenion y gwasanaeth. Sylwch fod gofyniad i weithio shifftiau dydd a gyda'r nos, hefyd ar benwythnosau a Gwyliau Banc. Amdanoch chi: • Bydd gennych agwedd gadarnhaol a brwdfrydedd i weithio gyda phobl sydd ag Anabledd Dysgu. • Byddwch chi’n gallu darparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn canolbwyntio'n gryf ar ganlyniadau cadarnhaol a chynnyddu llesiant pobl. • Bydd gennych agwedd allblyg a chyfeillgar gydag agwedd gadarnhaol ac awydd i fodloni’r holl heriau ac agweddau gofynnol y rôl. • Byddwch chi gallu meddwl y tu allan i'r blwch a dod o hyd i atebion creadigol. • Byddwch chi bob amser yn croesawu ac yn cyflawni'r gwerthoedd corfforaethol ym mhopeth a wnawn, sef; Proffesiynol, Cadarnhaol-flaengar, Agored, Cydweithredol.• Bydd gennych y sgiliau a'r wybodaeth am sut i drin pobl ag anableddau dysgu fel unigolion gwerthfawr ag urddas, parch a hawliau cyfartal fel bod ganddynt lle cyflawn mewn cymdeithas, ac annog eraill i wneud hynny hefyd.Yr hyn y byddwch yn ei wneud: • Cefnogi pobl ag anableddau dysgu i ddatblygu eu sgiliau a'u hannibyniaeth drwy arddangos a modelu gweithgareddau. • Gweithio ochr yn ochr â thîm staff ymroddedig a gweithwyr proffesiynol eraill yng nghartref y defnyddwyr gwasanaeth eu hunain a lleoliadau gofynnol eraill. • Ymgymryd â thasgau ymarferol a chefnogi pobl gyda'u gofal personol, gweithgareddau domestig ac yn gymdeithasol yn y gymuned. • Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i adeiladu a chynnal cysylltiadau teuluol a chyfeillgarwch a chyrraedd nodau a chyflawni canlyniadau personol. • Cymryd rhan adeiladol mewn sesiynau goruchwylio ac arfarnu staff yn rheolaidd. • Cyfrannu at asesiadau ysgrifenedig a Chynlluniau Gofal a mynychu cyfarfodydd Cynllunio Gofal gan lunio a chadw cofnodion ac adroddiadau manwl. • Cymryd rhan/mynychu hyfforddiant gofynnol i ddatblygu, tyfu ac ennill sgiliau iwella'r rôl.Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Helen Kelleher, Arweinydd Tîm Tenantiaethau â Chymorth ar 01686 627021 neu helen.kelleher@powys.gov.uk
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd